Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ali

ali

Roedd Jim Pellai hefyd, a oedd yn blisman rhan amser, ac felly'n gyfarwydd â'r heddweision lleol, yn awyddus iawn i Ali ddweud wrth yr heddlu am ddiflaniad Mary.

Ni syflai Ali ddim oddi wrth y datganiad hwn.

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Yn ddiweddarach daeth Ali i wybod bod ei wraig yn cyfathrachu â chymydog iddo - Martin Charles.

Eithr ymhen ychydig ddyddiau bu cymodi eto, a dychwelodd at Ali a hwythau.

Ceisiodd Ali ei orau i berswadio Mary i aros, gan fynd cyn belled â gwrthod i'r plant fynd gyda hi yn y gobaith y byddai hynny'n ei darbwyllo.

Ond yr oedd yn hen gyfarwydd â sŵn felly - roedd Ali yn fwtsiwr.

Yna aeth Ali a hithau i'r dref.

Roedd wedi galw yn nhŷ Ali fore dydd Gwener pan ddywedodd Ali wrtho fod Mary wedi mynd i Lundain ac iddo roi decpunt iddi.

Am rai wythnosau bu Fred yn gyrru'r fen o gwmpas y dref, weithiau yng nghwmni Ali ac weithiau yng nghwmni Mary.

Derbyniodd Ali'r esboniad nes i'r heddlu alw chwarter awr yn ddiweddarach gan ofyn a oedd popeth yn iawn.

Ar y bore Iau tyngedfennol, tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore, roedd wedi clywed sŵn ergydion trwm yn dod o dy Ali - fel sŵn ergydion bwyell.

Mae Bwrdd Criced India wedi cwynon swyddogol yn erbyn Pennaeth Criced De Affrica, Ali Bacher.

Tua hanner awr wedi dau neu chwarter i dri, galwodd Ali yno a rhoi allwedd y fflat iddo oddi wrth Mary.

Dychwelodd ryw ddwyawr yn ddiweddarach ac yr oedd Ali'n dal i sgwrio.

Maddeuodd Ali iddi a dychwelodd y teulu am gyfnod byr i Gaerllion cyn symud i Heol Grafton, efallai er mwyn bod ymhellach oddi wrth demtasiwn Martin Charles.

Elvis, gyda llaw, oedd ar ben y rhestr gyda Muhammad Ali yn ail a Noel Gallagher yn drydydd.

Aeth Ali ymlaen i ddweud iddo ef a Mary fynd allan i ddosbarthu cig wedi i'r plant fynd i'r ysgol.

Ond daeth Ali i wybod.

Pan ddaeth Mary adre'r noson honno ar ôl bod yng nghwmni Fred, gyrrodd Ali hi o'r tŷ, ond addawodd y câi weld y plant drannoeth.

Ar wahân i Ali, un o'r rhai olaf i weld Mary oedd Aaron Rees, y bwtsiwr o Abercarn y prynai Ali ei gig ganddo.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Cytunodd Ali, a bodlonodd Mary aros gydag ef tan hynny.

Muhammed Ali yn gwrthod ymuno â'r fyddin.

Bu'n cadw llygad ar symudiadau Ali a gwelodd ef yn dod adref am chwarter wedi un-ar-ddeg yn ei fen a mynd i'r tŷ ar ei ben ei hun.

Ymhen diwrnod neu ddau, holodd Ali am unrhyw newyddion ynglŷn â Mary, a phwysodd arno i fynd at yr heddlu ond ni fynnai Ali mo hynny.

Ni chymerodd Ali arno fod fawr o ddim anghyffredin wedi digwydd.

Gan nad oedd ganddo ef na Mary drwydded yrru, cytunodd Fred i yrru'r cerbyd drostynt a phrynodd Ali fen Bedford at y gwaith.

Tua'r un amser, dechreuodd Ali fusnes cigydda rhan amser, gan werthu'r cig i Arabiaid Casnewydd.

'Allan o'r cwestiwn,' meddai Ali Hassan.

Gobaith Ali oedd na fyddai Fred yn barod i dderbyn y pedwar plentyn yn ogystal â Mary, na Mary'n fodlon ildio'r plant er mwyn Fred, ac y deuai'r gyfathrach rhyngddynt i ben yn raddol, fel y gwnaethai gyda Martin Charles.

Ni fedrai Fred gredu'r stori o gwbl a sylwodd fod golwg gythryblus dros ben ar Ali.

Barn gyfrinachol Jim Pellai wrth Mark Waters oedd fod Ali wedi ei lladd.

Holodd Mark Waters Ali'n fanwl a'i fersiwn ef o'r hyn a ddigwyddodd oedd fod Mary ac ef wedi cweryla y bore hwnnw a'i fod wedi ei tharo.

O'r diwedd, cyfaddefodd Ali fod cweryl wedi bod rhyngddynt a bod Mary wedi dweud rhai pethau na fedrai ef mo'u goddef.

Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.

Holodd Ali yn drylwyr, ond prin y teimlai iddo gael gair o wirionedd ganddo.

Cyn iddo fynd, dywedodd hi wrtho y byddai'n mynd adref i baratoi'r plant i fynd i'r ysgol ac i helpu Ali gyda'r rownd gig - a hynny am y tro olaf.

Y Sadwrn canlynol aeth Ali ar eu hôl i Birmingham yng nghwmni Shri Kristaan Moortty Pellai, neu Jim Pellai fel yr adwaenid ef fynychaf, i erfyn ar Mary i ddod yn ôl adref.

Wynebodd Ali Martin, a bu ymladd rhyngddynt hwythau cyn i Ali fynd i Birmingham ar ôl ei wraig.

Erbyn hynny roedd si ar led fod rhywrai wedi clywed sgrechfeydd ofnadwy yn dod o dŷ Ali tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore y diflannodd Mary.