Gyda Concorde fe allem gael brecwast adre, cael coffi ganol bore yn America a dod nol i swper.
Dowch, hogia, does dim i'w ennill wrth aros yma'n hwy.' 'Mi allem aros iddo ddod allan oddi yna,' meddai Iestyn.
Dychwelwyd adref ychydig cyn y Nadolig Penderfynodd Edward a minnau mai'r peth gorau fyddai gwneud ei Nadolig yr un hapusaf a allem.
Gan Dduw na allem garthu allan y fath ffolineb ac ailfeddiannu unwaith eto yr angerdd a yrrodd bobl Llanfaches i daenu'r newyddion da ar hyd blaenau cymoedd Gwent a Morgannwg.
Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.
Fe allem gael sioc rywbryd o sylweddoli fod yna neges oddi wrth Dduw yn dod o siwt annisgwyl o fodern.
Credem yng Nghymdeithas yr Iaith mai'r deyrnged orau a allem dalu er cof am Saunders Lewis oedd cyhoeddi argraffiad newydd o'i ddarlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu'r Gymdeithas, ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w haelodau byth er hynny.
A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.
Gan inni fod gyhyd yn nisgleirdeb yr haul ni allem weld yn glir iawn i'r cysgodion, ond wedi cynefino tipyn gallem weld merch yn plygu allan o un o ffenestri'r adeilad gyferbyn.