Felly mae'n bwysig sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gyson ac yn naturiol ar gyfer pob gweithgaredd a phob busnes dyddiol drwy gyfrwng: - gwasanaeth bore a chyhoeddiadau'r dydd, - rhaglen o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys clybiau adloniadol ac allgyrsiau fel gwersylloedd yr Urdd, Eisteddfodau, gwyliau sgio a thramor, ayb.