Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allt

allt

Yn anffodus roedd wedi cloi ond gan fy mod yn mynd i lawr allt tynnais yr allwedd o'r 'ignition' i'w agor.

Wedi mynd heibio i lyn Trehesglog ar y chwith bydd y ffordd yn codi drwy allt dderw i'r mynydd.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

Wrth ddod at allt ar i fyny, newidiwch i lawr yn gynt na'r arfer.

Cydgerddodd y ddau i fyny'r allt, ac yntau'n ceisio tynnu sgwrs â hi, ond doedd dim yn tycio.

Wel, mi a adawaf yr hen deuluoedd a'u ffermydd am sbel, gan obeithio eich bod yn dal i sefyll ar ben yr allt wrth ymyl yr Ysgol.

Mae yna amryfal bobol yn mynd i fyny ac i lawr yr allt 'ma yn eu cerbydau, yn codi'u dwylo arna i.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

Wedi cyrraedd Bwlch y Moch edrychwch yn ôl i weld pedol yr Wyddfa yn ei gogoniant o Allt y Wenallt i Lliwedd, Yr Wyddfa, Crib y Ddysgl a Chrib Goch uwch eich pen.

Y tu draw i'r cae, ar ben yr allt y mae tŷ, ac er mai yn y pellter y mae, y mae'r sylw a'r manylder yn dal i gael ei roi i'r adeilad o'i gymharu a'r cae â'r ffens yn y blaendir, a hyn eto yn cadarnhau sylwadau Maredudd ei hun mai mewn adeiladau y mae ei ddiddordeb.

Roedd y llall, y Massey bach a oedd ar y ffarm, cyn ei wraig, ar ben yr allt.

'Roedd Siôn Elias yn ei gyfarfod ar ganol allt Penrhosddu.

Cychwynnwyd y daith ar allt St.

Gweinidogaethai Phylip Griffiths yntau yng Nghwm Nedd yn ogystal ag yn yr Allt-wen a Godre'r Rhos.

Clymwyd cwch Huw wrth y lanfa ger pier Bangor, a chychwyn cerdded i fyny'r allt am yr ysbyty.

Gwelir e'n cerdded yn ddadlennol i fyny'r allt o Siop Gwilim.

Un o'r lluniau mwyaf tirweddol yn yr arddangosfa yw Yr Allt lle mae cae yn y blaendir mewn gwyrdd golau a du, a ffens a weiran bigog yn rhedeg o flaen y llun i fyny'r ochr gydag ymyl y lôn.

Pan gyrhaeddodd ben yr allt uwchben ei gartref, gwyddai'n syth fod rhywbeth o'i le gan fod golau'n y tŷ.