Yn ôl yr wyth clwb alltud nid dwyn perswad mae'r swyddogion bellach ond yn hytrach eu bygwth.
Camgymeriad hefyd fuasai tybio mai alltud dieithr i Gymru oedd Elfed.
Roeddwn i wedi mynd yn ôl i Ciwba, ond y tro hwn i wneud rhaglen am deulu Cymraeg Meic a Leila Haines a oedd yn byw a gweithio yn Havana; roedd adroddiad wedi'i wneud o Latvia trwy fynd â Latfiad alltud yn ôl yno ac roedd adroddiad ar ryw yn Thailand wedi'i wneud trwy ddilyn gweithwraig Gymraeg o'r elusen Oxfam.
Ond mae'r agwedd hon wedi cythruddo yr wyth clwb alltud.
Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.
Un o'r peryglon pennaf a wynebai'r morwynion alltud oedd 'dyfod i gyffyrddiad a llyfrau o duedd lygredig a drygionus, a ffug-chwedlau, o'r rhai hyn, mae llenyddiaeth y Saeson yn llawn, yn fwyaf nodedig y rhan (sic) a fwriedir i'r merched."ø Sôn am nofelwyr Saesneg y mae 'G' yn yr erthygl ddifrifddwys hon.
Bellach, pan fydd trychineb neu ryfel neu storm, fe ddaeth yn arferol clywed lleisiau Cymry alltud yn sôn am eu profiadau.
Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.
Bu'r cyfnod hwn fel alltud yn allweddol yn ei hanes am fwy nag un rheswm.
Dyna obaith y miliwn o Gubaniaid alltud yn Florida oedd yn paratoi'n frwdfrydig ar gyfer diwedd teyrnasiaeth Castro.
Yn ei awdl clywir eto hiraeth yr alltud ystrydebol am yr aelwyd a'i moldiodd.
Teimlai pobl Allhallows the Great, yr eglwys a roes gartref i'r Cymry alltud yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Cartref, ei bod yn ddylestwydd arnynt anfon chwech o bregethwyr i gynorthwyo yn y gwaith.
Mae'n ei ddisgrifio'i hun fel alltud-o-ddewis, gan gyfadef ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn ceisio cau'r hyn sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon allan o'i feddwl.
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf dwysau a wnaeth gwrthwynebiad y Frenhines tuag at y Diwygwyr a phenderfynodd Davies ddianc am loches fel alltud ar gyfandir Ewrop.
Ar ôl munud neu ddau, fe welwn fod y gyrrwr, o'r enw Sean, yn ŵr diddorol iawn, yn chwaraewr pibau Gwyddelig - ond yn alltud yn Birmingham ac adref am dro i weld ei deulu.