Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alluog

alluog

Maen ymddangos nad yw siaradwyr Saesneg mor alluog yn hyn o beth ag yw Eidalwyr a Ffrancwyr, er enghraifft.

Nid oedd Bob Edwards mor alluog â'r ddau gyntaf ond llwyddodd i gadw diddordeb dosbarth niferus o bobl ieuainc o'r deunaw oed i fyny.

Mewn teledu annibynnol yn arbennig, ceisir sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn alluog i wneud gwaith pawb arall, hyd yn oed i wynebu'r camerâu pe bai galw am hynny.

Ar yr achlysur hwn fe sylweddolais fod gennym arweinydd arbennig ac unigryw a hynod o alluog a dim ond mater o amser oedd nes y byddai yn brif weinidog.

Eithr nid i drafod gwr mor alluog a chymhleth â John Donne yr ysgrifennir hyn, ond yn hytrach i goffa/ u gwerinwr syml o Uwchaled a fu'n aelod o ddosbarth WEA y Glasfryn a Chefn Brith o'i gychwyniad.

Mae'n clebran fel pwll tro, ond mae'n alluog ac mae ganddi gysylltiadau da a fu o gymorth i mi droeon.