Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alluogi

alluogi

Y mae stôr o wybodaeth gan bob siaradwr, sy'n ei alluogi i gynhyrchu a deall nifer annherfynol o olyniadau newydd yn ei iaith, ac â'r wybodaeth fewnol honno'n bennaf (competence yw term Chomsky) nid â'r sylwedd a gynhyrchir gan y siaradwr (performance yw gair Chomsky) y mae a wnelo gramadeg.

Arolygu safle ac amserlen BBC Radio Wales er mwyn cryfhau ei hapêl gyffredinol i gynulleidfa eang ar draws Cymru gyfan, ac i alluogi'r orsaf i gystadlu'n effeithiol gyda gwasanaethau newydd.

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi'n egnïol er mwyn sicrhau fod yna strwythur strategol i alluogi Cymru i fanteisio i'r eithaf ar ei chryfderau yn y maes.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac maen rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Maent hefyd am weld Twrci yn dod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd - bu meysydd awyr milwrol Twrci yn ganolfannu cyfleus iawn i alluogi awyrennau yr Taleithiau Unedig fomio Irác.

Pwrpas yr hormonau hybu tyfiant oedd llonyddu'r anifail, gan alluogi iddo ddod i fwy o bwysau fel anifail gorffenedig.

I alluogi hyn, rhaid cael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gall y cwmni ddechrau masnachu.

Roeddet yn ofni y byddai golau dy ffagl yn tynnu sylw'r milwyr, ond fe fyddai'r golau wedi dy alluogi i weld y cleddyf miniog a oedd yn hongian o'r nenfwd.

I grynhoi, ceisiwyd gwneud yr achlysur yn un cenedlaethol i Gymru gyfan, i alluogi Caerdydd a Chymru i ddangos eu hochr orau i'r byd.

Gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant ac arolygiaeth ddigonol i alluogi pob gweithiwr

Ar y noson fawr bydd llu o rifau ffon ar gael i alluogi'r gwylwyr i gyfrannu at Apel Plant Mewn Angen.

Cyfaddawd yw'r fferm, ffrwyth ei wrthryfel sy'n ei alluogi i gadw wyneb ac ar yr un pryd i ddal ei afael ar ei etifeddiaeth gyfalafol.

Nid oes i'r ddrama raniadau yn ôl Act a Golygfa ond defnyddir cyfnewidiadau goleuo i alluogi i'r ddau grŵp o gymeriadau newid lle ar y llwyfan.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Dylid bod peirianweithiau i alluogi'r tîm o uwch-reolwyr a'r corff llywodraethu i fonitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag AAA.

Rhaid hefyd ddarparu cyfleoedd i alluogi pobl i ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol.

Wedi i'r ddihangfa a wnaeth o sylweddau ei fore oes fethu--nid ffansi%au iddo ef--un peth a allai ei wneud a fuasai'n sicr o'i alluogi i wynebu'r byd yn ei gysgod--gwneud arian.

Mae'n werth tanlinellu arwydddocâd y ffaith fod cysylltiadau cydwladol Charles yn ei alluogi i droi at yr union bobl a allai helpu.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac mae'n rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Roedd crwydro Belffast fel ffotograffydd ar ymweliad yn hytrach nag fel brodor yn ei alluogi i edrych ar y sefyllfa gyda gwrthrychedd newydd.

Mae BBC Cymru hefyd wedi sefydlu fforwm sgwrsio o'r enw talkwales i alluogi gwrandawyr a gwylwyr i gyfathrebu am faterion Cymreig.

Ond mae hyn yn enghraifft berffaith o'r angen i ymateb i'r her a chreu trefniadau cadarnhaol newydd i alluogi ysgolion pentref i gyflawni eu gorchwylion yn effeithiol.

Ond mae'n rhaid iddynt fod yn barod i alluogi defnyddiwr y gwasanaeth

Ond nid oedd adroddiad y pwyllgor hwnnw'n ddigon ffeithiol i alluogi'r Pwyllgor Cenhadol yn Lerpwl i fedru barnu wrtho.

Bid a fo am hynny, gan fod Saesneg yn ei is-ymwybod, megis, y mae gan Eingl-Gymro reddf sy'n ei alluogi i'w feirniadu ei hun wrth sgrifennu yn yr iaith honno.