Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allwn

allwn

Ni allwn ond cyffesu ein pechodau ger dy fron a deisyf dy faddeuant.

Unwaith eto allwn i wneud dim ond edmygu dewrder y gwragedd yma a cheisio cyfleu'r ffordd urddasol y maen nhw wedi dygymod â'r sefyllfa a dechrau bywyd newydd yn wyneb caledi mawr.

Ceir ystadegau yn adroddiad y Comisiwn Datgysylltiad (fel y gelwid ef yn ddigon hwylus) ar gyfer y gwrandwyr ond rhybuddir ni na allwn ddibynnu arnynt.

Ni allwn ond gobeithio na fydd yr hen Nessie yn tybio mai abwyd sydd yn y dwr ac yn neidio amdano.

Er straenio nghlustiau hyd yr eithaf ni allwn adnabod llais neb arall, ond synnais glywed mai yn Saesneg y siaradent.

Fodd bynnag, er y cyfan a allwn ddweud amdano sy'n gadarnhaol, mae'n parhau yn bechadur - pechadur a gyfiawnhawyd gerbron y nef - ond un sy'n llawn amherffeithrwydd.

wel, beth mwy allwn ni ei wneud na charu'n gilydd?" "Caru'n gilydd ddigon..." "Os wyt ti'n torri dy galon fel hyn, tybed sut mae Romeo a Juliet yn teimlo heno?

Ni allwn beidio gan mai ynddi hi y dysgid pob pwnc.

Ond allwn i mo'i adel e fan'ny.

"Allwn ni ddim,' ategodd y ffrind.

Ond mi allwn ni dreio eto nos yfory.' Aeth pum munud heibio .

Ni allwn lai na chofio am y tro hwnnw y bu+m i'n beirniadu'r adrodd yn 'steddfod Llangadog slawer dydd.

Petai Lewis Olifer a Deilwen Puw wedi dyfod yn ystod yr wythnos yr oedd ef acw, ni allwn lai na'i wahodd.

Mi allwn hoffi'r eneth yma.

Heb hwnnw ni allwn ryngu bodd Duw.

Ni allwn gymryd y peth i mewn am funud.

Fel mam fy hun, fe allwn o leia', geisio dychmygu hynny.

Ta waeth, ni allwn i ddychmygu beth oedd yn bod, a ffwrdd â ni ar y last lap.

Ni allwn gysuro ein hunain drwy ddweud fod y Gymraeg yn weddol ddiogel yn yr ardaloedd Cymraeg.

Ni allwn weld pwy oedd ynddo, ond wedi iddo aros yn union oddi tanom, neidiodd Lewis Olifer allan yn heini, gan ddal y drws yn agored.

Yr hyn na allwn ei ddeall oedd sut y gallai fod yn Mr Universe a ninnau heb wybod pwy sy'n byw yng ngweddill y bydysawd.

Hyd yn oed os na allwn dderbyn fod y gymdeithas ganoloesol mor ddigyfnewid ag y maentumia rhai, yr oedd iddi'n ddiau y sefydlogrwydd diwylliannol a sicrhâi barhad syniadau a pharhad œurfiau llenyddol.

Yr wyf wedi cywiro cymaint ag a allwn ohonynt ar y teipysgrif, ac eraill yn y nodiadau sy'n dilyn.

Y thema fydd 'Y pethau na allwn ddioddef eu colli am byth'.

A dwi'n teimlo hynna i'r byw - a dwi'n teimlo nad oes dim byd bellach allwn ni wneud oherwydd yn y cyfnod presennol yma mae rhywbeth mawr wedi digwydd.

Mae'r beiddgarwch mynegiant hwnnw yn bwydo ar feiddgarwch y meddwl, ac fel arall; a phan ddown wyneb yn wyneb a'i gwaith hi, ni allwn ond dilyn o hirbell, a chydnabod arucheledd y wisg a'r cynnwys fel ei gilydd.

Felly dylem fod yn gwneud yr hyn a allwn i ddatrys y problemau yr ydym wedi eu hachosi.

`Fe allwn i neidio allan nawr a buaswn i'n ddiogel,' meddai Bob wrtho'i hun, `ond beth fuasai'n digwydd i'r lori - a beth fuasai'n digwydd i'r holl wragedd a phlant sydd yn y strydoedd ...?'

Rhys: Brwyn y tir llaeth sy'n melynu'r hufen, fe allwn gywiro menyn a magu lloi .

Allwn ni byth ei glywed o'n dod,' meddai Gareth.

Allwn i ddim dyfalu sut y cyrhaeddodd rhai ohonynt eu ffau anghysbell, heb sôn am allu uniaethu gyda'r arswyd a oedd wedi eu cymell i fentro.

Williams Parry, ni allwn dros ein crogi fabwysiadu'r fath ddisgrifiad difriol gwirion.

Ni allwn weld ei wyneb, ond gallwn daeru ei fod yn gwenu'n gellweirus.

'Byddwn yn parhau i edrych a oes modd gwella'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol ond ni allwn wneud unrhyw ymrwymiadau pendant ar hyn o bryd.

Ni allwn obeithio gallu ennill gwobrwyon.

'Allwn i ddim stopio'n hunan,' meddai Dilwyn yn dawel, 'unwaith roeddwn i wedi dechre.' 'Mae'n dda iawn bod Nic a finne wedi dod 'na 'te.

Er fy mod erbyn hyn yn ei adnabod yn well, ni allwn ei ddeall yn llawn.

Gwyddwn fy mod yn hunangar, ond ni allwn ei helpio.

Mae hi'n argoeli'n flwyddyn a hanner i artistiaid Cymreig felly, ac ni allwn ond dymuno pob lwc i bob un, er nad oes angen peth felly ar yr un ohonyn nhw.

Dichon fod y ddau ŵr ifanc yn adnabod ei gilydd yno, ond ni allwn brofi'n bendant eu bod wedi cwrdd a chyfeillachu yn ystod yr amser yma.

WW Allwn ni ddim gwarantu y bydd yr arian yno ymhen dwy flynedd.

Allwn ni wrth reddf ddim gadael i ysgolion mewn ardaloedd tlawd a difreintiedig 'gardota' ar ochor priffyrdd addysg.

Ni allwn fy mherswadio fy hun fod gennyf ferch ac wyres, a deuthum i'r casgliad y byddai'n haws cymryd arnaf mai John ei hun oeddwn i.

Ni allwn yn well na chau pen y mwdwl â hir-a-thoddaid Tudno i "Gofadail Dr Morgan":

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Cefais ddychryn, oherwydd ni allwn barablu yn Saesneg ac fe wyddai hi hynny.

Gan na allwn siarad Saesneg yn dda iawn doeddwn i ddim eisiau gadael Cymru am wlad newydd mor bell i fwrdd.

Ond fe allwn ddychmygu Emli yn ei helfen mewn lle o'r fath!

Trannoeth, ar ôl i'r mistir fynd mor ddisymwth, allwn i ddim mynd lan nes bo' i'n hwyr y prynhawn.

`Pan drown yn llwch,' meddai'r geiriau ar y garreg, `os bydd iaith Lithuania'n gry' ac os bydd ysbryd Lithuania, trwy ein hymdrechion ni, wedi adfywio; yna, hyd yn oed yn y bedd, fe allwn orffwyso'n fwy tawel.'

Allwn i ddim gneud na thin na phen ohoni.

Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.

Oherwydd ein pechod yr ydym o dan gondemniad ac nid oes dim a allwn ni ei wneud trwy ein hymdrechion ein hunain i sicrhau'r cyfiawnder a fydd yn bodloni'r Duw sanctaidd.

Ac a allwn ni ddiystyru'r anobaith ingol a fynegodd Jeremi Owen mor huawdl yn ei Ddyledswydd Fawr Efengylaidd?

Ni allwn siarad Saesneg ac nid oedd fy nealltwriaeth ohoni fawr fwy.

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Yn yr ornest Ewropeaidd fe allwn ni ddisgwyl rhifau llai byth.

Allwn ni ddim fforddio llacio.

Bron na allwn ei alw'n serchogrwydd newydd.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

Allwn i ddim peidio â mynd.

Teimlwn na allwn fyth gymryd bendith dros rywun eto, oni chawn esboniad ar yr hyn a ddigwyddasai.

Petai rhywun wedi dod o hyd i'm henw yn llyfryn nodiadau rhyw derfysgwr mi allwn fentro y buasen nhw'n clustfeinio ar fy sgyrsiau ffôn.

Allwn i ddim gofyn i neb am help na moddion, yn sicr doedd y milwyr ddim am helpu.

Gallaswn feddwl fod y bwrdd wedi ei osod yn ôl y steil ddiweddaraf, oblegid yr oedd rhai offer a gwydrau arno na allwn ddyfalu eu pwrpas.

'Na allwn, cytunai Iestyn.

Fe allwn ni'r Cymry Cymraeg, bawb ohonom, fod yn euog o'r cyhuddiad hwn i'r graddau y bo ein harfer yn anghyson â'n proffes.

Allwn ni ddim cael cynulleidfa Gymraeg.

Ond, mae eu goleuni wedi teithio am gyfnod mor hir cyn ein cyrraedd fel na allwn fod yn sicr, wrth edrych arnynt, a ydynt yn dal i fodoli ai peidio.

Mae'n siwr fod crynodebau ohono wedi ymddangos yn y papurau newydd pan lofnodwyd ef ond yr oedd y papurau hynny wedi hen fynd i'r domen ac ni allwn gofio dim a ddarllenais amdano.

Allwn i wneud dim llai nag ufuddhau i'r fenyw wylaidd hon.

Y petha' sy'n bwysig y dyddia' yma yw gwario cymaint ag a allwn ni ar ddathlu a phrynu anrhegion drud...

Rhyw fis yn ôl, cefais wahoddiad na allwn ei wrthod.

Fe allwn ddechrau gweld sut mae'r Deufalfiaid yn hidlo gronynnau o faint neu lai.

Efallai y cymer ychydig mwy o amser na'r disgwyl, ond fe gyrhaeddwn ni yna yn y pen draw.' Gan na allwn rannu eu hoptimistiaeth, bu+m yn gohirio sgrifennu am hyn oll o un diwrnod i'r llall.

Fe allwn ddychmygu cymaint mwy yw eu hawydd i warchod yr eliffant a fu yn sumbol mor gryf o drachwant dyn yn treisio'r bywyd gwyllt.

Wedyn fe allwn fynd a dweud popeth wrth yr heddlu.

'Allwn i ddim aros yno'n gwrando, ac o'r diwedd curais ar y drws.

'Nag yw, wir ...' Mi allwn i weld oddi wrth lais Delwyn bod ofn arno yntau hefyd.

Ei syniad oedd cael gwragedd ar draws y byd i greu baneri eu hunian ar y thema 'Y pethau na allwn ddioddef gweld eu dinistrio gan ryfel niwcliar'.

"Allwn ni byth ag ymrwymo i beidio â phrotestio ar Faes yr Eisteddfod fwy nag y gallwn ni yn unrhywle arall," meddai Aled Davies.

Fel darpar ymgeisydd y Blaid ym Meirion byddwn i yn mynychu'r Pwyllgor pan allwn.