Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

almanac

almanac

Magwyd yma gymeriadau anturus a phenderfynol, fel John Roberts (Siôn Robert Lewis), awdur y pennill 'Braint, braint, yw cael cymdeithas gyda'r Saint', a chyhoeddwr Almanac Caergybi.

Mae gennyf gof fel y byddai mam a finna yn galw yno lawer i nos Sadwrn i gael torth fawr, a chael paned o de ar y bwrdd bach crwn, a byddai y Beibl ganddi ar y silff pen tan, ac yn hongian byddai Almanac Robert Roberts Caergybi, a llyfr cyhoeddiadau y Methodistiaid Calfinaidd (roedd hi yn ofalus iawn o'r achos).

Yr oedd yr Almanac yn ystordy o wybodaeth gymysg am genedlaethau lawer, geni, priodi, marw rhyw deyrn neu arglwydd, drylliad llong, neu dan mawr Llundain, ac yna yn sydyn, rhyw ddywediadau fel - "Gwynt a glaw, yma a thraw%, rhyw erchyllderau dyddiol am sbel wedyn, ac yna "Felly pery i'r mis derfynnu%, hynt y lleuad a thrai a llanw.

Euthum ymlaen i ffair Abergele, a throais i werthu Almanac i dy tafarn Ue yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân.

Fe ddywed John Evans yn ei lyfr "Pinsiad o halen" fod Almanac Robert Roberts wedi cael ei brintio yn Iwerddon er osgoi treth y llywodraeth.

Y peth cyntaf fyddai'n 'i wneud oedd mynd 'nôl i'r tū i mofyn Old Moore's Almanac.