Nid ambell i donc a thinc gwladaidd a glywyd yn codi oddi wrth Alp Funtauna, fodd bynnag, ond corganu cyfoes cannoedd o heffrod a lloeau heb boen yn y byd am orbori a gorgynhyrchu.
Funtauna (ffynhonnau) ydyw enw'r alp eang, gwastad, a'r hafoty uchaf ichwi ei gyrraedd ar ochr ddeheuol y bwlch.
Wedi mynd trwy'r glyn cul, yr oeddwn yn cerdded trwy goedwig am y tro cyntaf, ond y mae muriau Val Susauna bedair mil o droedfeddi uwch eich pen erbyn ichwi gyrraedd Alp Pignaint, a chreigiau gwylltach eto yn gwarchod mwynder y porfeydd.