Mae deng mlynedd wedi mynd heibio er pan enillodd Alun Jones Wobr Goffa Daniel Owen gyda'i nofel Ac Yna Clywodd Swn y Mor, ac roedd cyhoeddi'r nofel honno flwyddyn yn ddiweddarach yn garreg filltir go bendant yn hanes y nofel Gymraeg.
'Mae gynnon ni drwyddedi,' mentrodd Alun, ei geg yn sych gan ofn.
Yr oedd hyn i gyd pan oedd Alun Oldfield Davies yn Rheolwr rhadlon yng Nghaerdydd a Hywel Davies twymgalon a disglair, a fu farw mor drist o gynamserol, yn Bennaeth Rhaglenni.
Eisteddai Alun wrth y tân efo'i fam pan ddaeth cnoc ar y drws.
Sylwodd Alun ar y graith biws hyll oedd yn rhedeg ar hyd un ochr i'w wyneb, lle'r oedd cyllell wedi rhwygo'r croen mewn sgarmes.
Gobeithio y bydd Mrs Alun Williams a Mr Andrew Angel yn hapus dros eu cyfnod ymarfer dysgu.
Mae'n amlwg fod Alun wedi marw!
Bydd Alun Thomas, sy'n gweithio i Gymdeithas y Deillion, yr RNIB, yn canolbwyntio ar sut i ddylanwadu ar y strwythur yma.
Mae'r hyn a alwodd Alun Llewelyn-Williams yn "ddiwethafiaeth" yn gorwedd yn drwm arnyn nhw i gyd.
'Be ydi hwn, d'wed?' gofynnodd Alun.
'Mynd a dweud wrth yr heddlu ydi'r peth callaf i'w wneud.' Lapiodd Alun y papur newydd yn barsel twt cyn ei roi yn y sach blastig a chlymu ei cheg yn dynn.
Mae sylwadau Alun Richards yn ei gyfrol hunan- gofiannol ddiweddar, Days of Absense, yn llai llym na'r hyn a geid ganddo ddeng mlynedd yn ol.
Yn y man gwelodd Alun fflach las wrth i Bleddyn wibio ar hyd y ffordd tuag ato.
Mynegodd Alun Michael anfodlonrwydd gydag awgrym mewn dogfen ymgynghorol gan y Swyddfa Gymreig ei hun y byddai'n rhaid aros wyth wythnos am fersiwn dwyieithog o'r cofnodion tra byddai fersiwn Saesneg ar gael ymhen tridiau.
Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.
Eirwyn Pontshan, Moses Glyn Jones, Leopold Khor, Dyfnallt Morgan, Alun Owen, Caitlin Thomas, Harri Webb, Richard Nixon, Jackie Onasis.
Edrychodd Alun ar y lein.
Mae ysgrifennydd Bangor, Alun Griffiths, wedi dweud bod y clwb am ddechrau edrych am reolwr newydd - gyda'r rheolwr presennol, Meirion Appleton, yn cymryd swydd fel swyddog datblygu ieuenctid ddiwedd y tymor.
Gallech, fe allech ddweud bod Alun a Niclas yn llwyddo, yn prysur 'gyrraedd'.
Yng Nghymru yr oedd Dafydd ap Gwilym wedi dod i'r amlwg fel bardd sech a bardd natur mwyaf llenyddiaeth Gymraeg ac wedi dod yn bwnc ymchwil i ysgolheigion yn ogystal ag yn un o ffynonellau ysbrydoliaeth y Rhamantiaid, beirdd 'Y Nos, Y Niwl, a'r Ynys', chwedl Mr Alun Llywelyn-Williams.
(Bydd rhai ohonoch wedi clywed Alun Owen y dramodydd ar y pwnc hwn.
"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.
"Yr oedd diolch yn ail pwysig iawn ym mywyd Alun", dywedodd y Parchedig Emlyn Richards yn y deyrnged.
Cyrraedd tŷ Alun a Jan cyn deg.
"Mae ein cydymdeimlad yn gywir iawn ag Edith, ei briod, ei ddau frawd, Eddie a Glyn ..." Nefoedd Wen, mae Alun Bwlch wedi marw!
Wrth ddiolch iddo am ei sylwadau caredig ynglyn âr cyfleusterau presennol addawodd Alun Michael y deuai yntau fel yr aelodau eraill i sylweddoli bod i'r adeilad ei anfanteision a bod yr angen yn parhau am adeilad i'w barchu.
Sylwodd Alun fod llygaid ei ffrind yn pefrio ac ni allai beidio ƒ gwenu.
Rwy'n credu i mi gael fy ngwahodd gan Alun Evans a'i gydweithwyr i gymryd at y gwaith o baratoi cyfrol ddathlu o ryw fath am i minnau unwaith fod yn gynhyrchydd gyda'r Gorfforaeth.
"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.
Alun Bwlch oedd y llall, mab ieuengaf y diweddar Williams Owen, cipar Plas Gwyn a'i wraig.
Er, o ran tegwch, dylid nodi bod Alun Llywelyn-Williams wedi sylweddoli'n gynnar mai unochrog .
Fel wiwer, cerddodd Alun ar hyd y boncyff a phlygu i lawr i ryddhau'r bachyn o'r pren.
'Dweud wrth yr heddlu siŵr iawn,' oedd ateb pendant Alun.
Ymhen dim amser roedd tri brithyll braf arall wedi eu dal, un i Alun a dau i Bleddyn.
Os oedd o'n meddwl y byddai ei eiriau'n effeithio ar Alun roedd o'n iawn, ond nid yn y ffordd yr oedd o wedi bargeinio amdani chwaith.
Ymadawodd Alun ag Ysgol Beaumaris i fynd i'r banc.
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio'r cyfarfod fu rhyngddynt a'r Ysgrifennydd Gwladol Alun Michael ddoe (Dydd Mercher Ionawr 6ed) fel un adeiladol.
Gan yr Athro Alun Llywelyn Williams (heblaw am draethawd Mrs Hughes ac un ysgrif yr un gan Syr Thomas Parry Williams a Dr Pennar Davies) y cafwyd yr ymdriniaeth fwyfaf gofalus o 'Sonedau y Nos'.
Roedd Alun yn Form Three neu Four - heddiw Blwyddyn naw neu ddeg yn yr Ysgol Gyfun, ac yn derbyn gwersi Lladin.
Cyn i Alun Michael gael cyfle i ateb neidiodd Helen Mary Jones i'r adwy.
Williams, Ffransis Payne, Leslie Snell ac Alun Williams yn marw.
Ni lyncwyd Alun Jones nac Aled Islwyn gan y cyfryngau, ac er bod William Owen Roberts yn ennill ei fara menyn ym myd y teledu, mae'n ymddangos fod y nofel yn gyfrwng a apeliodd yn arbennig ato am ei bod yn rhoi cyfle iddo fynegi'i weledigaeth mewn modd mwy myfyrdodus na'r teledu.
"Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybu'n rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias," meddai llefarydd.
Tynnodd Alun ei gyllell o'i boced a thorri'r lein.
Dywedodd Alun Michael iddo ymweld âr ysbyty ddwywaith yn ddiweddar - yn ceisio cywain pleidleisiau i Lafur, mae'n debyg - ond ddim digon i gadw Helen Mary draw.
Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi'r Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.
"Fu neb erioed yn fwy gwerthfawrogol o bopeth nag o." Brawddeg yn portreadu alun Bwlch i'r dim.
'Mae o tua un deg chwech centimedr,' oedd ateb Alun.
Aelod o'r heddlu, sef Mr Alun Bevan ddaeth atom i gynnal y noson.
A hyd yn oed pe cyfeiriem at ffigur llai trawiadol byth yn hanes ein llenythiaeth, Alun Cilie dyweder, ni feddyliem arddel y fath derminoleg byth bythoedd.
Fel arfer pan fo criw o fechgyn yn yr un lle yn rhannu'r un chwaeth gerddorol, y canlyniad yw ffurfio grŵp, ond gan nad cerddorion mo Gruffydd Jones ac Alun Llwyd, dyma benderfynu ffurfio cwmni recordiau.
"Dyna hyn'na wedi ei setlo," meddai Alun.
Yn ddarlithydd prifysgol cyn iddo ymddeol y mae un o'r awduron, Alun Rhys Cownie o Gaerdydd, yn ddysgwr ac yn awr yn byw ym Mhwllheli lle dysgodd Gymraeg.
Y mae un mater arall y dylid ei nodi ynglŷn ag agwedd Alun Llywelyn- Williams at swydd y prydydd: y mae hi'n gwbl wahanol i swydd yr ysgolhaig.
'Ti a dy gath!' atebodd Alun yn bryfoclyd, 'mi fasa'n well i ti gael ci fel Bob ni, maen nhw'n llawer callach na chathod.'
Yn ystod arweinyddiaeth Alun Michael yn y Cynulliad, gofynnodd Dafydd Wigley iddo a oedd yn cytuno gyda'r angen i roi statws swyddogol i'r Gymraeg.
Yn Saesneg newidiodd Mr Morgan enw ei swydd ei hun yn First Minister er mai First Secretary oedd o cynt fel ag yr oedd Alun Michael a Ron Davies o'i flaen.
Y Prif Gyfreithiwr Erlyn oedd Daniel Alun Roberts Thomas (DART i'w ffrindiau a'i gydnabod), cymeriad os bu un erioed, tipyn yn un-llygeidiog yn achos y Gymraeg, a daeth rhai o'i sgarmesoedd gyda Chymdeithas yr Iaith yn enwog iawn ar y pryd, ond roedd yn gyfreithiwr da, a thu allan i faterion yr Iaith, yn un o farn gyfreithiol ddibynnol a sad, a'i wybodaeth o'r gyfraith droseddol yn eang a manwl.
Bardd Cymraeg yw Alun Llywelyn-Williams.
Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.
Dipyn o syndod oedd darganfod ymhen hir a hwyr fod Miss Gwladys Lewis ('Anti Glad') neu J.Alun Roberts, yr Adran Hanes, yn medru siarad Cymraeg.
Ar 21 Ionawr 2000, cafodd y Prif Ysgrifennydd Alun Michael gyfarfyddiad gynta'r ganrif newydd gydag aelodau Cymdeithas yr Iaith.
Llew hefyd at bwysigrwydd y gwaith a wnaeth Alun R.
'Mae wedi llyncu'r bachyn,' meddai Alun.
Cafodd y fraint o dderbyn Mr Alun Garner yno, a mi 'roedd wedi dotio cael cartref mor Gymreig ynghanol y paith.
Byddai gyrfa Alun ac yn arbennig ei ymdrechion i gaslgu llyfrau a chael addysg yn werth eu hadrodd.
Dringo coed yw un o bleserau Tomos Alun, ac mae o, hefyd, wedi gwirioni ar bel-droed.
'Megan i chwaer,' oedd sylw Alun, 'ac mae hynny'n waeth.'
"Mi fyddwn ni'n defnyddio adeiladau fferm Y Faenol fel stad o weithdai diwydiannol," meddai Alun Ffred Jones, cynhyrchydd y gyfres.
Dim ond un Alun Jones sydd gennym, ond er mor annhebyg iddo yw nofelwyr eraill diwedd y saithdegau a'r wythdegau, mae'n ymddangos i mi inni gael adfywiad ym maes y nofel yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Roedd rhestr faith o gwestiynau i fwrw trwyddynt ac aelodau Plaid Cymru wedi bod yn fwy cydwybodol na neb gyda'u gwaith cartref yn yr awydd i faglu Alun Michael, y Prif Ysgrifennydd.
Alun yn sbeitlyd ac yn awgrymu y byddai'i chwaer yn sicr o ffendio rhamant newydd yn Ne'r Iwerydd.
Roeddwn i'n meddwl bod yr etholiad trosodd erbyn hyn," meddai Alun Michael yn sych.
Diolch byth, meddyliodd Alun, ni fyddai raid poeni lle'r oedd yr haul.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwrdd a nifer o aelodau eraill y Cynulliad erbyn hyn yn cynnwys Alun Michael, rhai o ysgrifenyddion y Cabinet a nifer o'r aelodau eraill.
Doedd Alun yn cael fawr o lwyddiant gyda'i bysgodyn.
Yn achos Alun, fel yn achos R.
Gyda hyn yn gefndir, penderfynodd Cymdeithas yr Iaith mai syniad addas iawn fyddai cyflwyno Ail Lythyr Pennal i'r Prif Ysgrifennydd Alun Michael.
A chyn bo hir yr oedd ef a'r tîm o'i gwmpas yn cynhyrchu 'amrywiaeth diddorol' (ys dywed Alun Evans) o raglenni o Fangor.
Yno hefyd yr oedd ei mam Jane Roberts, ynghyd a Laura Edwards y forwyn a phedwar yn lletya, sef: Harry Hornsby, o Leamington oedd yn gweithio yn y banc; Thomas Evans o Landdwyn, bugail; Alun ac Aneurin Lloyd o Lanelwy, un yn dwrne a'r llall yn y banc.
Agorodd Alun y parsel yn ofalus.
Efalla' am fy mod i ar y pryd yn darllen Alun Mabon." "Ceiriog?" "Ia..
"Dyna bopeth wedi ei setlo Alun," meddai Nia'n hapus gan godi a mynd i eistedd ar ei lin.
Mae Tomos Alun, sy'n ddisgybl yn Nosbarth Ffrydlas Ysgol Abercaseg, yn chwarae rhan y Dafydd ifanc, sy'n cael ei fagu i bob pwrpas gan Mali.
Safodd Alun ar ei draed a'i wyneb yn welw a doethineb llawer hŷn na'i oed yn ei eiriau.
Yn dilyn ei anerchiad fe geir trafodaeth o dan gadeiryddiaeth Alun Llwyd, Is Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bu llawer o'r datblygu yn ystod y cyfnod hwn oherwydd brwdfrydedd heintus a gweledigaeth y diweddar Alun R.
Roedd Alun yn meddwl am yr hen stori pan ddechreuodd Bob chwyrnu'n ffyrnig.
Syrthiodd fy llygaid ar "Cemaes - marw Mr A Owen" Cofiais mai dim ond dau Alun Owen yr oedd yn gwybod yn iawn amdanynt.
Fis diwethaf, roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol, Alun Michael, i wneud yn siwr y byddai Araith y Frenhines (sydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg.
Wedi i Alun Michael deithio o Bennal i Fachynlleth ddydd Gwener, Ionawr 21, bydd yn cael ei gyflwyno â dogfen yn dwyn y teitl 'Ail lythyr Pennal'.
Ond rydw i'n gallach erbyn hyn, yn adnabod y drwg, yn adnabod y gelyn." "Rwan Alun rydych chi'n mynd yn rhy bell yn sôn am y drwg ac am y gelyn.
Roedd e'n hwyr fel arfer, meddyliodd Alun.
"Ffermio?" "Ie, ffermio Maes y Carneddau." "O Alun," meddai Nia.
Roedd 'rhen Alun gyda ni.
Cododd y dref a'r gymdogaeth rai gwŷr galluog eraill, megis John Blackwell (Alun), Thomas Jones (Glan Alun), John Davies, Nercwis.
Alun Bwlch Mawr?
Edrychodd Alun ar y ci a gweld fod y blew ar hyd ei gefn yn sefyll i fyny'n syth.
Un arall sydd yn cofio Clwb Bryncir yn dda yw Mr John Alun Williams, Nant Cwmbran.
Pabyddes oedd ei fam ac ai Alun i'r offeren gyda hi; llongwr oedd y tad a Methodist Calfinaidd ac ai'r hogyn i'r capel gydag ef pan fyddai adref o'r mor.