Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.
Cyfareddir dyn wrth wylio'r cerbydau coch neu wyrdd tywyll yn mynd i mewn ac allan o'r twneli, gan esgyn neu ddisgyn o lefel i lefel, ac o bont i bont, uwchben hafn gul Afon Alvra.