Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amaethu

amaethu

Gellir dadalau fod cynifer o systemau amaethu yng Nghymru ag sydd o ffermydd, ac mae hyn yn adlewyrchu'r cyfuniad o ddylanawadau lleol sy'n effeithio ar ffermydd unigol.

Yr hen ddull o amaethu a arferid yno hyd y diwedd, gyda cheffylau gwedd yn tynnu'r offer i gyd.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Bydd y rhain yn gyfrifol am wasanaethau lles, addysg, masnach, tai, cynllunio, yr heddlu, amaethu a physgota a datblygu diwydiannau bychain.

Trafododd yn betrus ddigon darddiad enwau lleoedd, nododd ffiniau'r plwyfi, disgrifiodd natur amaethu a chynnyrch yr ardaloedd, a chyfeiriodd at ychydig o henebion.

Wrth gymharu partwn amaethu yng Nghymru gyda'r patrwm mewn gwledydd eraill, mae'n amlwg fod y patrwm cenedlaethol wedi datblygu oherwydd nodweddion arbennig y wlad o ran hinsawdd, tirwedd a phriddoedd.

Canys y mae amaethu yn waith na dderfydd byth.

Mae astudiaeth o ystadegau cenedlaethol yn symleiddio'r dulliau o amaethu sy'n bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Eto, y mae treulio llawer o amser, ie, y rhan fwyaf o'ch amser tra yn yr Athrofa, i droi a throsi Geiriaduron, ac i chwilio a dysgu Gramadegau, weithiau yn peri difaterwch yn meddwl dyn yng nghylch amaethu crefydd ysbrydol yn yr enaid, a dal cymundeb a Duw.

Mae gan hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ddylanwadau lleol sy'n gyfrifol am yr amrywiaeth mawr yn y patrymau amaethu.

Yn gyffredinol mae systemau amaethyddol yn datblygu o dan ddylanwadau cyson hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ond mae'r ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar batrymau amaethu o fewn blynyddoedd a thymhorau.

Ar yr iseldiroedd hyn ceir amaethu cynhyrchiol a chedwir gwartheg godro a thyfir cnydau.

Mae canlyniad hyn yn amlwg ar y patrwm amaethu yn genedlaethol lle ceir pwyslais ar gadw anifeiliaid ar diroedd pori.

Priododd yntau; a disgynnodd ar unwaith yng nghanol trafferthion hollol newydd iddo - amaethu tyddyn mynyddig, digon drud, a magu tyaid o blant, ymwneud â masnach ansefydlog a phorthmyn celwyddog.

Un perchennog fu'n amaethu'r tir am gyfnod maith gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Fe'i lluniwyd mewn cyfnod a oedd ar y ffin rhwng amaethu traddodiadol ac amaethu yn y dull newydd.

Mae cryn amrywiaeth yn y dulliau o amaethu o ardal i ardal.