Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amaethwr

amaethwr

Hyd yma y teithiodd fy hen daid o Benfro i fyw a marw'n amaethwr.

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Mae'n rhaid i'r amaethwr drin ei ddefaid ond rhaid gwneud hynny yn y modd mwya diogel iddyn nhw hefyd, meddai llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

Roedd perchennog Dremddu Fawr yn hen gymeriad craffus iawn ac yn ūr o flaen ei oes fel amaethwr.

Yn ei waith fel amaethwr - y cofiwn Y cyfaill di-gynnwr'; Fel cloc rowndio'r stoc heb stwr A wnaeth nes methu neithiwr.

Cafwyd darganfyddiadau a ddaeth â chysuron nid yn unig i wraig y tŷ, ond hefyd i fywyd yr amaethwr yn ogystal.

Mae'r amaethwr da yn drefnu hefo'i beiriannau, ei had a'i wrtaith ac yn barod i gychwyn pan fo'r tywydd yn caniatau.

Gwelir yn union yr un deunydd mytholegol yn stori Roger Edwards, Yr Amaethwr a'r Goruchwyliwr.

Ond yr oedd agwedd amaethwyr yn bur wahanol; er mor atgas ac erchyll oedd effeithiau Myxomatosis, yr oedd pob amaethwr cydwybodol a gawsai brofiad o ddifrod cwningod, yn ei groesawu.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Mae'r amaethwr gwael yn dal i feddwl pa gae i'w ddefnyddio heb son am gael y taclau i weithio.

Edward Vaughan yn ddiau yw'r amaethwr gorau yn Nyffryn Aerwen a phob ffermwr yn disgwyl ei arweiniad ef i dorri'r gwair: Yr oedd Edward Vaughan fel barcud i weld gweiryn aeddfed a machlud cadarn.

Mae'r cyfleusterau gan yr amaethwr erbyn hyn i gasglu ei borthiant o silwair, yn rhydd neu'n fyrnau mawr, heb brin orfod dod oddi ar glustog gyfforddus ei dractor.

Yn y Caerau oedd gwreiddiau'r gwr addolgar hwn a hoffai sôn am ei ddyddiau cynnar fel amaethwr.

Mae'r amaethwr wrth reddf yn ymwybodol o'r amrywiaeth priddoedd sydd rhwng ei gaeau, ac o fewn caeau unigol.