Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amdanaf

amdanaf

Peidiwch â bod yn hir efo'ch cinio, rhag i ni fod yn hwyr yn yr ysgol." Ni fum yn hir yn llyncu fy nghinio, a phan gyrhaeddais at y gamfa, yno'r oedd Capten yn disgwyl amdanaf.

O'r Alban yr oeddwn i wedi dod i Rydychen, ac yr oedd pobl y gogledd wedi gofalu amdanaf Pe buasai raid i mi fel llawer Cymro arall, ddibynnu ar garedigrwydd fy nghyd Cymry wedi dod i Rydychen am gyfeillach a chyfarwyddyd,buaswn mor unig â hen frân gloff ar yr adlodd.

'Mi fasan nhw wedi sgorio chwech gôl heblaw amdanaf fi,' broliodd Huw.

Gwasgodd y cylch amdanaf.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Fel roeddwn i'n dweud, wn i ddim beth maen ei ddweud amdanaf i ond fyddwn i ddim eisiau treulio bore yng nghwmni yr un o'r bobl hyn heb sôn am naw wythnos.

I Agra ymhen tair awr, a chael fy nal gan ddyn tacsi sy'n cynnig gofalu amdanaf trwy'r dydd, am bris rhesymol, rhaid cyfaddef, am fod y bobl sy'n arfer rhedeg bysiau i'r Taj wedi mynd ar streic.

Daeth i edrych amdanaf yn yr ysbyty hefyd, a dau ddreifar i'w ganlyn.

Dos di i weithio, a phaid â phryderu amdanaf;" meddai.

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

Wedi sylweddoli ymhen deuddydd ei bod wedi cael strôc, danfonodd amdanaf.

Lischana Fy nhad a'm difethodd gyntaf - gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i'm hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd: o Oerddrws i Islaw'r dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i'r Ganllwyd o Gapel Curig i Groesor.

Codwn innau, gwisgo amdanaf, sodro bwrdd bychan o flaen fy nghadair, rhoi fy nhraed mewn basgedaid o sbarion lledr, ac ymroi i weithio gyda'm llyfrau gan ddal ati, hynny fedrwn i, trwy'r oriau man tan y bore.

Holai'n dyner amdanaf, a dweud fel yr oedd wedi mwynhau cwmni Gwyn pan gyfarfu'r ddau gyntaf Gofynnais yn gynnil beth oedd ei adwaith i'r pasiant ar ôl bod ar y llwyfan, ac yr oedd yn ddigon moesgar i beidio â dangos gwyn ei lygaid a chodi ei ysgwyddau, fel yr arferai Illtud ei wneud i ddangos fod rhywbeth y tu hwnt i eiriau.