Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.
Ceir ystadau mawrion o dai cyngor ac ardaloedd sy'n sefyll yn uchel ar restrau amddifadedd economaidd.