Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amddiffynfa

amddiffynfa

Fel ym mhob brwydr, rhaid i'r cadfridog doeth ymosod ac amddiffyn yn dactegol, a rhaid iddo drefnu ei fyddin yn y fath fodd, fel bod ei filwyr yn ymosod ar y mannau gwan yn amddiffynfa'r gelyn.

Mae Tre'r Ceiri, sydd ar safle o bum erw wedi'i hamgylchynu â muriau cedyrn o gerrig a phridd ar ffurf caer neu amddiffynfa.

I gadw'r gelyn a'r bwystfilod allan, codid cloddiau cedyrn o bridd a cherrig o gwmpas y ddinas, a ffosydd tu hwnt i'r cloddiau; Byddai i bob amddiffynfa ddwy ran, un at gadw'r anifeiliaid a choed tan a phethau eraill, ac un arall gadarnach i'r bobl fyw ynddi.

Yn aml fe'u codir yn uwch gan bobl fel amddiffynfa rhag llifogydd.

Yn anffodus, er imi geisio tynnu sylw'r awdurdodau priodol at bwysigrwydd Tre'r Ceirij nid oes yr un arwydd i'w weld hyd heddiw i egluro gwerth y pentref i'r genedl nac ychwaith gynnig wedi'i wneud i rwystro'r fandaliaeth o daflu rhai o'r cerrig o'r amddiffynfa dros y dibyn!

Y rheswm am hynny, wrth gwrs, ydyw nad oes na grug na choed-llus chwaith mewn digon o drwch i greu caead nag amddiffynfa i'r adar a'r anifeiliaid sy'n dibynnu ar allu ymguddio i fyw ac i fagu epil.

Hynny fyddai'n sicrhau cymdeithas hyfyw Gymraeg ac amddiffynfa i gadarnleoedd yr iaith.

Mae'n debyg mai amddiffynfa i'r larfa rhag rheibwyr ac i'w gadw'n llaith mewn math o fath swigod moethus tra bo'n gwledda'n awchus ar sydd y planhigyn.

Fel y gwaredodd Duw Israel o'r Aifft â gwaed ŵyn y pasg yn amddiffynfa i'w phlant rhag angau, gwaed Crist bellach sy'n cadw'r ffyddloniaid rhag rhaib y farwolaeth sy'n ffrwyth pechod.