Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amddiffyniad

amddiffyniad

Yn y fangre honno y darganfyddid prif ffynhonnell awdurdod, cadernid ac amddiffyniad.

Mi fedra i ei glywed o 'nghwmpas ym mhob man - ar wahân i arogl lledr, glud, cemegolion a defnyddiau crai eraill.' Tydi hynna ddim yn wir,' meddai, gan gasa/ u dweud celwydd, ond yn ceisio'i hargyhoeddi ei hun mai dyna'r unig amddiffyniad yn erbyn y diwydiannwr hwn oedd mor annioddefol o lwyddiannus.

Mae angen mwy o amddiffyniad ar fenywod os yw dynion yn debycach o gael eu restio a'u dwyn gerbron y llys, ac mae'n hanfodol bwysig bod mwy o swyddogion heddlu yn hysbysu menywod o godolaeth llety dros-dro diogel a gynigir, gan lochesau Cymorth i Ferched tra bod yr achos ar y gweill.

Ei amddiffyniad oedd iddo wneud hynny gyda'r bwriad didwyll i'w rhyddhau o boen annioddefol a hynny pan oedd hi ei hun yn dymuno marw.

O Swyddfa'r Blaid yng Nghaerdydd gwnaeth J. E. Jones waith enfawr dros yr amddiffyniad gyda'i drylwyredd arferol.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Bu dadlau brwd am hyn a dod i'r casgliad y gellid eu cyhuddo o ddwyn y babell a'r corff ond efallai y gellid ystyried yr amddiffyniad o ddiffyg bwriad a diffyg gwybodaeth, pe codent hynny, oherwydd bod "dwyn" yn drosedd wahanol i "gymryd a gyrru i ffwrdd".

Prif amddiffyniad cwningod rhag eu gelynion yw eu chwimder a'r ffaith eu bod yn rhybuddio'i gilydd o berygl trwy guro'r ddaear â'u traed a thrwy ddangos y gwyn dan y gynffon wrth ddianc am ddiogelwch.

Estynnwn groeso pwyllog i ddau fesur eleni, y naill gan y Llywodraeth, y llall gan Gomisiwn y Gyfraith, a ddylai gynnig gwell amddiffyniad yn y dyfodol.

Byddai hanes cyflawn yn gorfod rhoi lle i'r gweithredu uniongyrchol, wedi i'r mesur fynd trwy'r Senedd, gan ychydig o genedlaetholwyr glew a garcharwyd mewn canlyniad, ond nid y Blaid a drefnodd hyn er inni drefnu'r amddiffyniad.

Medrid mynd â'r achos o flaen tribiwnlys ond gan nad oedd gan unrhyw un a gyhuddid o fod eisiau dymchwel llywodraeth etholedig y wlad hawl i gael gwybod pa weithred neu ddatganiad ar ei ran a oedd wedi achosi'r amheuon gwreiddiol, amhosib oedd paratoi amddiffyniad effeithiol.

Os felly, nid y meddyg Jenner oedd y cyntaf i ddefnyddio'r amddiffyniad, ond ef oedd y cyntaf i'w ddisgrifio a'i asesu.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

Mae'n amhosib i ni ofyn am ohiriad ar y sail ein bod ni'n gwybod am dyst a allai helpu'r amddiffyniad.

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

Eu hiaith a'u diwylliant oedd prif amddiffyniad urddas a dynoliaeth y Cymry yn wyneb goresgyniad diwydiannaeth a chyfalafiaeth ysgeler y ganrif ddiwethaf, ond polisi anwar y Llywodraeth oedd eu diddyfnu oddi wrth eu diwylliant a'u diwreiddio o'u hanes fel y chwelid y gymdeithas genedlaethol.

Llwyddodd yr amddiffyniad i grynhoi ynghyd gorff niferus o Gymry parchus Lerpwl ac o fyfyrwyr Cymreig.

Gellid dadlau mai amddiffyniad oedd lladd y Gwyddyl yn y sachau, ond ni ellir osgoi'r argraff bod Efnysien yn mwynhau'r weithred.

Mae'n amheus os yw'r pwyri'n amddiffyniad rhag pob heliwr, fodd bynnag.