Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amddiffynnydd

amddiffynnydd

"Come here John Jones," meddai'n awdurdodol, a gwelais f'amddiffynnydd yn mynd ato, ac i mewn i'r ysgol, a'r plant eraill i gyd yn swilio.

Gan fod offeiriad Aberdâr wedi ymosod yn benodol ar Ymneilltuaeth, gan honni mai hynny, ynghyd â chryfder yr iaith Gymraeg oedd i gyfrif bod bywyd y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd diwydiannol yn isel ac anfoesol, yr oedd y dadleuon yn gorgyffwrdd â'i gilydd, a Ieuan Gwynedd yn ymddangos fel amddiffynnydd 'gwir Gymreictod'.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.

Felly nid oes unrhyw demtasiwn i gyfreithiwr Prydeinig ddechrau achos, nid am fod yr amddiffynnydd o feddyg wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond yn y gobaith y bydd y cwmni yswiriant yn dewis talu iawndal yn hytrach na wynebu'r draul enfawr o gynnal achos cyfreithiol maith.

Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.

Yr oedd awenau'r llywodraeth yn nwylo ei ewythr, Dug Somerset, yr Arglwydd Amddiffynnydd.

Gwelsom fod traddodiad eglwysig cynnar yn cofio am Arthur fel amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol, ond ymddengys fod hynny wedi ei roi heibio erbyn cyfnod y Bucheddau.

Mabwysiadodd ei ddisgynyddion, y teitl "varman", amddiffynnydd, gan barhau'r gwaith o adeiladu a ddechreuwyd ganddo ef.

Yn sgil hynny mae'n debyg i rieni ddod i drysori bywydau eu plant yn fwy, ac i'r tad ddod yn bwysicach yn ei rôl fel amddiffynnydd y teulu.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.