Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.
O dan y cymylau tywyll a'r niwl disgynnodd amdo'r nos yn gynt nag arfer.
Roedd stamp y Gymuned Ewropeaidd, y cylch o sêr aur ar gefndir glas i'w weld ar yr amdo - yr eironi olaf yno i bawb ei weld.