Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

americaniaid

americaniaid

Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.

A minnau yn ymyl talcen gwesty bychan, daeth cerbyd â'i lond o Americaniaid heibio a chynnig fy nghludo hyd ben pellaf y ffordd.

Mae'r Americaniaid yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig i'w gwlad yr wythnos hon.

Mae'r Cwrdiaid yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael heb gefnogaeth gan yr Americaniaid yng nghyfnod Rhyfel y Gwlff, a hynny pan oedd Saddam ar fin cael ei drechu ganddynt.

Pegwn y cywirdeb gwleidyddol gwallgof hwn yw cynnwys Cuba Gooding Jr fel cogydd du sy'n dipyn o baffiwr ar un o longau'r harbwr - cymeriad nad oes a wnelo affliw o ddim a'r stori ond bod ei angen i ddangos pa mor bositif yw Americaniaid pan ddaw hi'n liw croen.

Eu pobl nhw, yn Saeson, Ffrancwyr ac Americaniaid, yw'r cymeriadau lliwgar, herfeiddiol a fu'n brasgamu ar draws cyfandiroedd gan adael ar eu hôl ychydig o oglau alcohol, calonnau chwilfriw a biliau heb eu talu.