Ac y mae dylanwad mudiadau protest a chymdeithasau amddiffyn o'r tu mewn a'r tu allan yn ysgogi ymwybyddiaeth amgenach na'r gwerthoedd yr oedd 'cyfoeth ffermwyr Llŷn' yn ei gynrychioli.
A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.
Yn hytrach, dewisodd fynd i'r llyfrgell am y dydd gan fod ganddi amgenach gwaith yno.
Merched du llachar yw gwragedd Cwffra, merched cryf, llon, ac yn eu plith ambell un dawel, feingorff, na fyddai ei symud drwy'r tŷ yn ddim amgenach na chwyth o berarogl neu dincial isel tlysau arian.
Pa ryfedd i Ddwynwen hoffi'r lle, ni ellid cael amgenach hafan i encilio a myfyrio.
Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!
Ar yr un pryd, ymbiliwn arnat oleuo meddyliau a chydwybodau arweinwyr y cenhedloedd i anelu at amgenach cyfiawnder wrth drafod cynnyrch y ddaear er mwyn lleihau newyn ac angen.
Byddai'n rhaid i Symons chwilio am amgenach esboniadau dros derfysg cymdeithasol fel helynt Beca yn yr ardaloedd gwledig.
Argymhellodd Diole\ y dylid gwahaniaethu rhwng 'archaeoleg môr' ac archaeoleg tir a nododd 'ei bod yn rhywbeth amgenach na changen o archaeoleg tir'.
Yn hynny o beth, meddir, mae rhamantiaeth yn fwy rhesymegol na chlasuraeth y Dadeni.' Mae'r pwyslais yma yn gogwyddo fwy i gyfeiriad rhamantiaeth nag a wnâi'r gyfrol ar Bantycelyn, ac yn wir fe dderbynnir fod egwyddor sylfaenol rhamantiaeth yn iawn, er bod angen symud ymlaen at ryw synthesis amgenach.
Bydd felly obaith na thry ef ddim byd amgenach na thudalen llyfr, ac y cyfyngir ei aredig i dorri cwysi dyfnion ar dalcennau hen ffermwyr anhydrin.
Yn Lloegr yr oedd llenorion nid yn unig yn chwilio posibiliadau sech fel ffordd ddihangfa amgenach na chrefydd, eithr hefyd yn chwilio posibiliadau celfyddyd fel trydedd ffordd ddihangfa.
Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?
Gallesid bod wedi darlunio deffroad amgenach na deffroad unigolyddol enaid clwyfus, sef deffroad gwerin i frwydro yn erbyn gormes ac anghyfiawnder.
Dinistriwyd y byd hwnnw gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a phan oeddynt yn dechrau dadebru ar ôl y chwalfa torrodd yr Ail Ryfel Byd ar eu gwarthaf, gan chwalu'r holl obeithion am amgenach byd.
Roedd 'Bardd' i Iolo, wrth gwrs, yn golygu rhywbeth amgenach na rhywun a brydyddai yn unig.
Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.
"Biti na f'asa dy geg di 'nte, Mari!" Gresyn na fuasai gennyf finnau amgenach rheolaeth ar fy nhafod.
Cyfeirient yn barhaus at 'rywbeth' arall ar wahân i grefydd fel cyfrwng i sefydlu trefn amgenach.
Credwn bod sicrhau mwy o ryddid i gyfnewid syniadau rhwng addysg a busnes yn datblygu amgenach dealltwriaeth rhwng y ddau faes ac yn foddion i adeiladu partneriaethau llwyddiannus.
Nid y lleoliad ynddo'i hun sy'n bwysig; prif linyn mesur llwyddiant yw ansawdd cyfleoedd dysgu newydd ac amgenach ar gyfer pobl ifainc yn yr ystafell ddosbarth.
Ymhellach, 'roedd Salesbury yn argyhoeddedig fod yn rhaid i fersiwn teilwng o'r Ysgrythurau wrth 'amgenach eiriau ...
Gellid yn hawdd gymeradwyo ffyrdd amgenach o dreulio'r diwrnod na sefyllian ar lawnt yn Reykjavik a hithau'n ddiwedd Hydref ond dyna oedd y dasg gerbron.
Yr oedd yno dri ar ddeg ohonom i gyd, heb ddim byd amgenach i'w wneud na mwydon hunain mewn haul a chwrw.
Fe'n rhybuddiwyd gan Saunders Lewis flynyddoedd yn ôl y dylid disgwyl gan lenor neu ysgolhaig amgenach pethau na'r rhai y gall pawb arall eu rhoi i ni.
Daw i Gymru amgenach beirdd,
Ynglyn a'r profiad hwn, efallai fod y beirdd i gyd yn gweld y byd mewn ffordd amgenach na'r dyn cyffredin am eu bod yn ei weld a llygad cariad : y maent yn caru'r byd a ddaw iddynt ar lwybrau'r pum synnwyr ac yn ei fawrhau yn arbennig yn y ffordd y maent yn ei amgyffred.