Dim ond trwy geisio amgyffred yn ddeallus a chyda chydymdeimlad y gallwn obeithio helpu y byd sy'n datblygu a cheisio datrys problemau a ddaw efallai i ran pob un ohonom.
Mae ambell ddyn yn amgyffred gwirionedd gyda'r un angerdd ag y mae dyn arall yn colli ei galon i ferch : mae'r gwirionedd yn ei feddiannu, megis ac y mae'r munud y digwydd hynny'n dyngedfennol yn ei hanes.
Prun bynnag am hynny, fe ymddengys i mi fod THP-W yng nghlo'r soned 'Dychwelyd' yn son am rywbeth tebyg iawn i Nirvana'r dwyreinwyr, sef math o anfodaeth na ellir ei amgyffred mewn unrhyw dermau daearol.
Mae hi'n dweud yn un ohonynt fod popeth a ddywedais i am greulondeb y rhyfel yn wir ond nad oedd hi'n ddigon hen i amgyffred ar y pryd.
Hyd at heddiw mae'n diffyg ni o ymwybyddiaeth cenedl, ein hamddifadrwydd ni o falchter cenedl, yn rhwystro inni amgyffred arwyddocâd ac arwriaeth yr antur ym Mhatagonia.
Dangosodd Waldo yn ei erthygl ar 'Barddoniaeth T. E. Nicholas' mor angerddol y gallai amgyffred gwirionedd ac mor anodd iddo weithiau oedd gwahaniaethu rhwng gwefr sylweddoli gwirionedd a gwefr adnabod barddoniaeth.
Roedd Heledd yn un o'r bobl mwyaf aeddfed y gwn i amdanyn nhw - rhy aeddfed, efallai, i allu amgyffred na fyddai pawb yn ymddwyn gyda'r un aeddfedrwydd a hi.
'Roedd yr egwyddor hon wedi'i hawgrymu yn rhannol gan y rhybudd yn yr Efengylau rhag taflu perlau o flaen y moch, ac yn rhannol gan y gred bod yn rhaid cyflwyno gwirionedd yn raddol er mwyn ei amgyffred yn llawn.
ohono ac anodd iawn iddynt hwy yw amgyffred difrifoldeb y colledion.
Mae Duw y tu hwnt i amgyffred dynol synhwyrus.
Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).
Ond tueddai barn fonistig am y cyfanfyd amgyffred datblygiad mewn symudiadau cylchynol.
Cydnabod, heb allu rhannu'r profiad na'i amgyffred.
Cyn y gellir amgyffred y modd y mae solidau yn gallu mwynhau foltedd fel yn y transistor, neu gynhyrchu golau fel yn y laser, mae'n rhaid yn gyntaf ddeall rhywfaint o nodweddion solidau a grisialau.
Ond rheola'r proffwydi yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd ganddynt ar y sylweddau, yn rhunwedd eu gallu i dreiddio i mewn i'r sylwedd a'i amgyffred.
Fel y mae'r llygaid yn treiddio y tu hwnt i arwyneb profiad yr unigolyn daw'r llenor i amgyffred cysylltiadau a syniadau na ellir eu mynegi o gwbl trwy gyfrwng technegau realistig.
mae'r naratif yn ceisio amgyffred ac amlennu'r teimlad gwasgaredig, drylliedig, amrywiol hwn sy'n perthyn i'n dyddiau ni gorchwyl amhosibl, wrth gwrs ).
Ond, yr ydw i, hyd yn oed, yn ei chael yn anodd amgyffred prifddinas yn annibynnol o'r wlad y mae'n brifddinas iddi.
Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.
'Doeddwn i 'rioed wedi amgyffred y fath beth.
Mae'n anodd amgyffred faint ddioddefodd pobl Kampuchea yn ystod cyfnod Pol Pot, ond roedd hi'n amlwg fod y creithiau'n dal heb eu gwella.
Mae hyn yn mynd a ni ymhell iawn oddi wrth y wyddoniaeth bendant, sicr a di-newid mae'r lleygwr a'r bachgen ysgol mor aml yn ei amgyffred.
Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.
Ynglyn a'r profiad hwn, efallai fod y beirdd i gyd yn gweld y byd mewn ffordd amgenach na'r dyn cyffredin am eu bod yn ei weld a llygad cariad : y maent yn caru'r byd a ddaw iddynt ar lwybrau'r pum synnwyr ac yn ei fawrhau yn arbennig yn y ffordd y maent yn ei amgyffred.