Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amgylchiad

amgylchiad

Gallasai adrodd yn llawen ambell dro, ac mi'r oedd yn dysgu partin aelwyd erbyn pob amgylchiad a weithiau yn gwadd y cymdogion i ganu efo ni.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Ymateb rhai plant i'r digwyddiad hwn fu crio ond ymatebodd un o ferched y dosbarth trwy ysgrifennu darn i ddisgrifio'r amgylchiad.

Mawr fu y tynnu coes ar lawer amgylchiad, ond ni welais ef erioed yn colli tymer er i'r tynnu coes fod bron yn greulon weithiau.

Cafwyd eitemau gan y disgyblion a chanwyd penillion a gyfansoddwyd gan Miss Delyth Jones i ddathlu'r amgylchiad.

Cofiaf ddau amgylchiad a gafodd argraff arbennig arnaf.

amgylchiad ffatri rhyfel yn Nhre-cwn, amgylchiad gorfodaeth filwrol, etc.

Mae'r amgylchiad yn cael ei gofio gyda gorymdaith ym mhob tref gyda'r holl luoedd arfog yn cymryd rhan ochr yn ochr ag ysgolion a gwahanol gymdeithasau - pawb yng ngwisg eu hardal.

Daw hyd yn oed y mynachod allan o'u hymguddfa i ddathlu'r amgylchiad ac i ymuno gyda thrigolion eraill y wlad.

Bellach 'roedd y cyfan yn dibynnu arnynt hwy, ac ni fynnent adael i'r amgylchiad fynd heibio heb ddangos i Lundain eu bod o ddifrif.

Daeth y ddau i'r adwy ar ddau amgylchiad mawr yn fy mywyd.