Yr oedd Gwen eisoes wedi yfed yn helaeth o ysbryd y Methodistiaid, ac anogodd ef yn daer i roi heibio'r meddwl am fynd ar ôl y cŵn, ond dadleuai Harri y buasai felly yn amharchu ei feistr tir a Mr Jones y Person, a hwythau wedi ei wahodd.
Gwelodd un o'r swyddogion fi, a daeth ataf i fy amharchu a fy nghuro; trewais innau ef lawer gwaith, ac ar ôl hir ffrwgwd ac ymladd mi a sobrais.
Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.