Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amharodrwydd

amharodrwydd

Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.

Yn ail mae'r frenhiniaeth yn arwydd o'r diffyg democratiaeth yn ein gwlad, yr annhegwch cymdeithasol ac amharodrwydd y drefn wleidyddol i addasu a moderneiddio.

A hynny er eu amharodrwydd i'w ryddhau ai werth sylweddol - yn ôl y swm yswiriant yr oeddent yn mynnu y byddai Cymru yn ei sicrhau.

Canlyniad hyn yw y medr yr awdurdodau gyflwyno pob math o reolau newydd, megis gofyn i athrawon dagw ffeil bersonol ar bob un o'u disgyblion, gan wybod na fydd unrhyw wrthwynebiad o du'r athrawon rhag ofn i hynny gael ei ddehongli fel amharodrwydd i fod yn driw i'r cyfansoddiad.

Mae Prince Naseem Hamed wedi colli coron pwysau plu WBO y Byd oherwydd ei amharodrwydd i amddiffyn ei deitl yn erbyn Istvan Kovacs o Hwngari.

Ac am ei amharodrwydd i adael Sam, ei gi.

Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth.

Cyhuddiad sy'n cael ei wneud yn aml yn erbyn gwleidyddion yw eu amharodrwydd i ofyn cyngor.

O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd ac i symud ymlaen gyda'r oes.