Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amharu

amharu

Gweithredodd gan amharu ar y farchnad dai haf.

Ac a oedd y newid wedi amharu arno?

Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn amharu ar y gân, gan ei bod yn meddu ar felodi gref iawn sydd mor nodweddiadol o ganeuon Maharishi.

Mae Sambarama hefyd yn cynnwys fersiwn Saeneg o'r un gân, Bright Nights/Dark Days ac er fod y gerddoriaeth wrth reswm yr un peth, mae'r acen Eingl-Gymreig yn debyg i gymaint o grwpiau eraill, ac yn amharu ychydig ar y fersiwn hon.

Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.

Mae Henry, fydd yn hyfforddi'r Llewod ar y daith i Awstralia, wedi dweud na fydd gohirio gemau Iwerddon yn amharu ar obeithion eu chwaraewyr nhw o fynd ar y daith.

Iddyn nhw, ffordd o ddial ar droseddwyr yw eu carcharu a'u cadw dan glo lle na allant amharu ar weddill cymdeithas.

Ond dywedodd cymydog arall: Doedd o ddim yn amharu arna i.

Er hynny, gobeithiaf yn fawr na fydd hyn yn amharu'n ormodol ar ddyfodol y grwp, yn enwedig gan eu bod mor frwdfrydig a gweithgar.

Os yw yn ddamwain ddifrifol mae'n rhaid ffonio'r Arolygaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid peidio ag amharu ar unrhyw beth yn y man lle ddigwyddodd y ddamwain nes ei fod wedi'i archwilio gan yr Arolygydd.

Yn ystod y cyfnod yng nghanol fy mywyd (hyd at fy nhridegau hwyr) golygai hyn fy mod yn hepgor llawer o weithgareddau oedd yn golygu llawer o gerdded neu os oedd fy arafwch yn amharu ar y gweithgarwch.

Sawl llenor addawol yng Nghymru a laddodd ei hun neu amharu ar ei wir ddawn trwy ddewis ymateb i'r galwadau hyn yn hytrach nag i ofynion ei grefft?

Mae'r golau hwn yn amharu ar nifer y ser y gallwn eu gweld (yn yr un modd ag y mae golau'r ystafell yn eu rhwystro rhag weld pethau tywyll y tu allan pan edrychwn allan o ystafell gyda'r nos.) Dywedwn fod golau'r lleuad yn effeithio ar ddisgleirdeb yr awyr, neu ar ba mor dywyll yw'r awyr.

Ond yn ôl cwpwl oedd yn byw efo'u plant 180 llath oddi wrth gartref Mr Godfrey yn Abergele, gogledd Cymru, roedd cerddoriaeth roc wedi amharu ar eu bywydau am dros dair blynedd.

Ni all Darfu'r tawelwch nac amharu dim Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd Yn gwneuthur gosteg a'u chwyrnellu chwim.

Llwyddodd Kath i amharu ar yr hapusrwydd hwnnw a daeth tro arall ar fyd Mrs Mac pan ddychwelodd Kirstie i'r Cwm yn haf 1997.

Ni ellir bod yn sicr bellach, wrth gwrs, bod newid mewn mwd, a achoswyd gan cortison, wedi amharu ar benderfyniadau Kennedy pan oedd yn Arlywydd.

(ii) Llythyr Clwb Chwaraeon Madog yn datgan pryder y byddai llinell y ffordd osgoi fwriadedig yn amharu ar eu clwb-dy.

O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.

Ond mae'r thema'n oesol, sef sut mae'r gwahanol yn amharu ar y cyffredin.

Dengys ymchwil gan Siambr Fasnach Llundain fod oriau hir yn y gweithle yn amharu ar iechyd saith allan o ddeg o weithwyr ac ar eu perthnasau personol.

Mae'r glaw wedi amharu ar gêm bencampwriaeth Morgannwg yn Old Trafford.

Llanwyd y craciau, ailaddurnwyd y waliau tu fewn, rhwystrwyd y lleithder rhag amharu mwy ar wynder y wal y tu ôl i'r pulpud a gwnaed pob dim yn ddiddos a chlyd er mwyn croesawu'r adfywiad a oedd yn sicr o ddigwydd.

'Roedd llifogydd wedi golchi'r hen ffordd yn rhigolau dyfnion, anwastad gan amharu ar geir y bechgyn ar eu taith i'w swyddi bob dydd.

Cyfeiriodd y cwynwr hefyd bod cytundeb ar y cyfan o dai'r ystad yn atal unrhyw ddatblygiad a fyddai'n amharu ar ddeiliaid eraill yr ystad.

Y mae enghreifftiau o fewn rhai systemau bywyd lle mae cyfansoddion neilltuol wedi eu disodli gan rai eraill nad ydynt yn rhai naturiol, heb amharu ar weithgarwch yr organebau.

Er nad oedd yn anghytuno â hyn, adroddodd y Prif Weithredwr bod angen cadw llawer o'r gwybodaeth yn gyfrinachol rhag amharu ar y cais grant y Cwmni i'r Swyddfa Gymreig.

Yn anffodus, mae llais Alex yn cael ei foddi ar brydiau gan yr holl offerynnau a hynny'n tueddu i amharu ychydig ar y gwrando.