Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amhersonol

amhersonol

Yr oedd cysondeb hefyd rhwng dadlau'r achos ar lefel rhesymeg mathemategaidd, haearnaidd, amhersonol, a'i gymysgu ar yr un pryd gydag ymosodiadau poeth, emosiynol ac yn aml enllibus o bersonol.

'Balchder aristocrataidd' awdur Gwaed yr Uchelwyr yw gwir wrthrych sylw Gruffydd, ni waeth pa mor amhersonol y cais fod.

Creadur gwrthrychol, amhersonol, yw'r gwyddonydd ar y model hwn, yn cyfrannu dim at natur y darlun.

Oherwydd nid ar gred y mae eich pwyslais, ond ar gredo; nid ar deimladau a meddyliau personol ond ar fformiwla amhersonol; nid, os mynnwch, ar yr hyn a genfydd dyn ond ar yr hyn a ddywedir wrtho gan ei eglwys.

"Yn anffodus, y mwya' diogel ydi rhywle, mwya' amhersonol ydi'r lle," meddai Nigel Aubrey o Ysbyty Glangwili.

'Pa fodd bynnag y dehonglir cystrawen ryfedd llinellau ola'r soned...' yw sylw'r Athro Llywelyn Williams: nid wyf yn bendant sicr beth yw ei anhawster oni lygatynnwyd yr Athro gan y cyd-destun i dybied mai 'cenir' a oedd yma, ac nid ffurf 'amhersonol' geni.