Mae'n amheus a gaech chi gynnig fel yna o unman arall.
(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.
Nid rhyfedd felly fy mod i'n amheus i'r eithaf heddiw o'r criw diwinyddol yma sydd mor uchel eu cloch ar i ni gofleidio'r myth a'i chusanu, ac ymbriodi â hi, a chodi teulu gyda hi.
Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.
Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.
Fel y gwyddys, pur amheus oedd y Methodistiaid Calfinaidd o werth colegau a'r addysg a gyfrennid ynddynt.
Pedwar achos o farwolaeth amheus a geir yn y gyfrol fach hon.
Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.
Mi fyddai colli un goron mewn amgylchiadau amheus yn ddigon i lawer un, ond beth am golli dwy?
Gofynnodd y gyrrwr y cyfeiriad iddo eilwaith gan edrych yn amheus arno.
Ond mae'n amheus iawn gen i os mai ni yw'r unig garcharorion,' meddai Myrddin yn feddylgar.
roedden ni'n eu cyfeirio nhw at bobl amheus, ac roedden nhw'n dod â gwybodaeth yn ôl inni.
Roedd y lle yn orlawn o Ffrancwyr a golwg ddigon amheus ar y rhan fwyaf ohonynt.
Mae'n werth bod ychydig yn amheus, a chymryd yn ganiataol fod rhywbeth yn bod arni.
Y Gainc Amheus.
Yr oedd hefyd braidd yn amheus ei moesau, gan ddifyrru mwy nag un cariad ar y tro - nid, meddai hi, am ei bod yn mwynhau'r gyfathrach ond am ei bod yn rhoi'r fath fwynhad i'w chariadon!
Wrth i Stacey ganolbwyntio ar ei harholiadau lefel A daeth Rachel Price i fyw i Gwmderi ac 'roedd Stacey'n amheus iawn o'i pherthynas hi a Hywel.
Trwy'r canrifoedd, bu llywodraethau'n amheus o gyfarfodydd dirgel ac o gynulliadau torfol.
Cymeriad digon amheus oedd Derek ar y cychwyn - bun gwerthu cyffuriau a chafodd ei ddal yn dwyn.
Roedd safonau moesol rhai o'r merched yma'n amheus iawn a rhai ohonynt wedi dechrau mynd i oed.
Bod pob cainc amheus y mynnir ei harfer i'w difreinio, megis y gainc heb doriad pendant i'w rhan gyntaf, a phob cainc y cytunir na ddwg traddodiad y gelfyddyd eirda drosti.
Fi gafodd anrhydedd amheus y gorchwyl o brofi'r ddyfais.
'A pheidiwch â defnyddio unrhyw air sy'n amheus mewn unrhyw ffordd.' Ac yn rhyfedd iawn wyddech chi, roedd na rhyw eiria, O, geiria roeddan nhw'n defnyddio nhw yn Sir Fôn, geiria bob dydd felly fel 'blonag' er enghraifft, O chaech chi ddim defnyddio'r gair hwnnw gin Sam mewn dim.
Y mae'n amheus gennyf a sylweddolem yn y Blaid ar y pryd mor chwyldroadol oedd yr hyn a hawliem.
Nid rhyfedd iddo fod ychydig yn amheus o dwrf Diwygiadau.
Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.
Ond ar ôl ein profiad yng Nghymru gyda'r refferendwm datganoli, gellid maddau inni am deimlo'n amheus iawn ynglyn â gwerth y fath beth.
Yr oeddent yn ddigon parod i weithredu'n amheus a threisgar er mwyn ychwanegu at eu cyfoeth a'u dylanwad.
Ac maen nhw'n amheus o debyg i chi'.
Mae'n amheus a all gwirionedd fyth fod yr un peth i ddau berson.
Llygadodd nifer o werthwyr o'n hynod amheus .
'Ac yn ôl pob golwg mae 'na ddynion digon amheus yn ei defnyddio.' 'A'r garreg 'na yn disgyn,' meddai Gwyn.
HEULWEN: (Yn amheus) 'Ti ddim wedi cael y ffrind 'ne'n ôl, wyt ti?
Yr hyn yr ydw i yn amheus iawn ohono yw'r athrawon hynny sy'n gwrthwynebu'r syniad yn ddiamod achos mae gen i ofn mai cuddio yn y tai bach y byddan nhw pan fyddwch chi'n chwilio am help i symud cratiau Rover.
Cododd yr heddwas ei ben a syllu'n amheus ar Huws Parsli.
Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.
Mae'n amheus os yw'r pwyri'n amddiffyniad rhag pob heliwr, fodd bynnag.
Canu pop, cabaret, dawnsio, jôcs amheus - maen nhw i gyd wedi bod yn job o waith iddi ar un adeg.
Ac y mae'n amheus gennyf a wnan nhw lwyddo chwaith.
Lled amheus oedd o amryw bethau ynglŷn â'r Diwygiad diwethaf.
Y mae dadansoddi'r cysylltiadau rhwng ffydd a chymdeithas, diwydiant a diwylliant, yn ddigon cymhleth heb i'r drafodaeth gael ei chloffi gan athroniaeth amheus.