Amheuthun o beth oedd cael gwên ar wyneb y cawr.
Caf brofiadau go amheuthun yn fy henaint, a diolch amdanynt.
Nodwedd amheuthun o'r llyfr hwn yw'r cydbwysedd a geir rhwng pob elfen o hanes Cymru - y cydbwysedd rhwng y tir a'r môr, gwlad a thref, diwydiant ac amaethyddiaeth, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth.
I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.
Paid â gwrthod, was i ne cinio digalon fydd o i mi." Diolchais yn gynnes i'm cyfaill, yn fwy felly gan nad oedd gennyf olwg am fawr o ddim amheuthun fy hun.
Y wedd fwyaf amheuthun ar y gerdd hon yw'r darlun a roddir o'r bachgen bach.
Mae'n ddiwrnod o fwynhad llwyr i'r teulu, yn llawer llai blinedig na'r Sioe Ceir ac yn gyfle amheuthun i weld y diweddaraf mewn modelau newydd ac ategolion o bob math.
A thro ar ôl tro awgrymir bod rhyw arbenigrwydd rhyfeddol yn perthyn i deulu Lleifior, rhyw foneddigeiddrwydd, yn ystyr ehangaf y gair, sy'n amheuthun ac yn deillio o'u tras fel gwyr bonheddig cyfoethog ym Mhowys.
JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.
Amheuthun i fynd â'ch tatws, pys, moron, sgewyll a'ch cydwybod gwyrdd golau.
Blasus oedd y peint uwd yn y bore a'i gynhesrwydd yn treiddio trwy'r gwythiennau a'r ymennydd, ac amheuthun oedd y cig lledr, y pytatws llygredig a'r pwding reis dyfrllyd.
"Evans, mae gen i camp bed ichi mi fydd dipyn yn well na chysgu ar y llawr." Diolchais iddo'n wresog, a theimlwn fy mod yn cael braint fawr o gael cysgu mewn gwely iawn amheuthun o beth mewn lle fel Shamshuipo.
I Merêd roedd holl awyrgylch y lle'n amheuthun - y symlrwydd cyntefig ac yn arbennig yr heddwch perffaith heb na cherbydau swnllyd na phobl drystfawr i'w ddifetha.