Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amhoblogaidd

amhoblogaidd

Ateb Mr S oedd na hidiai ef fotwm am y gyfraith gan fod achos Waldo mor amhoblogaidd ac na feiddiai Waldo ei amddiffyn ei hun mewn llys barn.

Fydd hyn yn golygu bod yn amhoblogaidd efo llawer iawn o bobl barchus, ac unwaith ddaw'r Cynulliad i fodolaeth fe fydd 'na fwy o bobl barchus nag erioed o'r blaen yn cau am ei gilydd ac yn gwarchod ei gilydd.

Ond os oedd yr Israeliaid yn amhoblogaidd, roedd llawer yn teimlo hefyd fod y PLO yn dod i mewn a defnyddio'r lle.

Er ei fod yn briod ac yn dad i blant, dim ond rhyw unwaith y mis yr âi adre; roedd yn amhoblogaidd ymysg y dynion eraill oherwydd ei falchder, a hoffent ddweud mewn smaldod na fedrai oddef gadael ei ddefaid.

Cyrhaeddodd Meic Pierce y pentre ond gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd yn syth wrth iddo ddefnyddio gwybodaeth Sabrina Harries am y post er mwyn dwyn oddi yno.

Gwn fod gramadeg (neu adeiladwaith iaith) yn amhoblogaidd y dyddiau hyn; ond os wyf yn mynd i esbonio beth yw natur yr adeiladwaith creiddiol ym mrawddeg bwysica'r iaith, rhaid caniata/ u ychydig bach o raff i mi, o leiaf.