Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amhriodol

amhriodol

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle na ellir dysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, technoleg gwybodaeth, oherwydd nad oes digon o adnoddau neu am fod yr adnoddau'n amhriodol.

(Er mai barddoniaeth yw prif bwnc y papur, nid amhriodol fydd tynnu sylw at rai gweithiau rhyddiaeth hefyd, pan fo'r rheini yn dangos syniadau tebyg i'r rhai a geir yng ngweithiau'r beridd.) Cafodd beirdd y genhedlaeth honno eu haddysgu cyn i syniadau modern ynghylch addysg ddisodli'r clasuron o'u lle blaenllaw yn y rhan fwyaf o ysgolion y wlad.

Ac efallai, megis yr anogai yr Arglwydd Iesu dlodion dydd ei ymgnawdoliad i ystyried y lili ac ehediaid y nefoedd rhag gorofalu am ddillad a phorthiant, nad amhriodol yw i'r digartref feddwl am y crwbanod a'r malwod a chreaduriaid eraill y darparodd y Creawdwr a'r Cynhaliwr mor ddigonol ar gyfer eu problem tai.

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle ni ellir addysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, gwyddoniaeth neu addysg gorfforol, oherwydd nad oes digon o fannau arbenigol neu am eu bod yn amhriodol.