Cyfraniad mwyaf unigryw Cymru i amlieithrwydd y byd yw bod yr iaith Gymraeg yn gyfrwng byw i ganran sylweddol o'r boblogaeth yma ac yn etifeddiaeth gyffredin i bawb.
Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.