Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amlinellu

amlinellu

Llunio adroddiad blynyddol ar gyfer yr Adain, yn amlinellu'r gwariant, yn refeniw ac yn gyfalaf, ar gyfer gwahanol weithgareddau'r Adain.

Dychwelaf at y cwestiynnau hyn yn y man ond yn gyntaf rhaid amlinellu y newidiadau mawr yn y brif defnydd o'n cefngwlad yn y degawdau ers yr Ail Ryfel Byd.

Mewn cyfres bwysig o'r enw Y Byd Hirgrwn (chwaer raglen The Union Game a gynhyrchwyd gan BBC Cymru ar gyfer BBC Two), bu Huw Llewelyn Davies yn olrhain hanes rygbi ac yn amlinellu sut y datblygodd y gêm o fewn ffiniau gwleidyddol a diwylliannol sawl gwlad.

Mewn cyfres o erthyglau i'r Tyst ar Fonedd Dyn' aeth ati i amddiffyn syniadau Tom Nefyn am ymgnawdoliad ar dir esblygiad gan ddal ar y cyfle yr un pryd i amlinellu'r hyn a olygai 'traddodiad' iddo yntau:

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Fe fyddaf yn manylu ar ei flynyddoedd yn Llanrhaeadr mewn darlith yno ymhen rhyw ddeng niwrnod - os gallaf sgrifennu'r ddarlith mewn pryd - ac felly fe fodlonaf ar amlinellu'r hanes yn unig yma.

Llunio datganiad ac adroddiad blynyddol, yn amlinellu nod ac amcanion yr Adain a'r hyn a gyflawnwyd ganddi, ac yn cynnwys dadansoddiad o wariant.

Cynhyrchwyd taflenni i'w dosbarthu i lywodraethwyr ac ysgolion yn amlinellu manteision addysg Gymraeg, a rhagwelir mai cyflenwi gwybodaeth am y Gymraeg fel iaith a chyfrwng fydd un o brif swyddogaethau'r pwyllgor yn y dyfodol agos.

Dylid nodi'r rhain mewn dogfen sy'n amlinellu arfer adrannol da.

Dylid mabwysiadu adroddiad adrannol, yn amlinellu'r materion hyn sydd dan sylw, a chan lunio côd ymarfer.

Cyfrifoldeb gohebwyr teledu oedd cyfleu peth o'r wefr honno'n ogystal ag amlinellu pwysigrwydd y cytundeb diarfogi a arwyddwyd gan Mr Reagan a Mr Gorbachev yn y Tŷ Gwyn.

'Roedd y papur yn amlinellu'r dulliau posibl er cael mwy o reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau oddi mewn ardaloedd cadwraeth - datblygiadau megis hysbysebion allanol a'i dod o dan reolaeth cynllunio.