Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amlycaf

amlycaf

Morgais i brynu tū yw'r enghraifft amlycaf yn hanes y rhan fwyaf ohonom, ond hawdd medru dychmygu fod sawl un wedi benthyca arian i brynu car, talu am wyliau neu anfon plant i'r coleg.

Y mae un o awduron amlycaf Cymru wedi rhybuddio y gall tranc yr iaith Gymraeg fod yn agos iawn.

Yn olaf mae'r frenhines ei hun yn berson cwbl anghymwys i'r gwaith o agor estyniad y Llyfrgell gan ei bod yn greadures cwbl ddiddiwylliant -- un o philistiaid amlycaf Prydain.

John Davies, hanesydd amlycaf Cymru, sydd wedi ysgrifennu fersiwn arbennig o hanes y genedl yn arbennig ar gyfer y We.

Y ddadl amlycaf ym meddwl y mwyafrif ymhlith y genhedlaeth gyntaf o arolygwyr oedd yr un foesol: wedi'r cwbl, roedd bron pob un ohonynt yn glerigwr mewn urddau a oedd wedi ei gymeradwyo gan awdurdodau'r Eglwys: ond ym meddwl y mwyafrif o'r beirniaid roedd yr hirben a'r moesol wedi'u cydgymysgu.

Gwyddai'r gwyr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn - eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.

Ar wahân i Pobol y Cwm a Newyddion, mae BBC Cymru amlycaf ar S4C mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol (eleni, er enghraifft, cynhyrchodd bron i 30 awr o Fro Ogwr), a'r Sioe Frenhinol lle rydym hefyd yn cynhyrchu rhaglenni dyddiol, o dan y teitl Y Sioe Fawr, a rhaglen uchafbwyntiau y penwythnos canlynol.

Yn Llanfairfechan sefydlodd ei hun fel un o organyddion amlycaf yr ardal.

Yr oeddwn yn llanc pendew a thwp pan gwrddais â John Gyntaf, ac , i'm tyb i, anwybodaeth anifeilaidd oedd ei nodwedd amlycaf.

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Tra bu i rai o leisiau amlycaf yr adain chwith megis Gudrun Ensslin ac yn ddiweddarach Ulrike Meinhof droi at drais, yr ateb i eraill oedd ffurfio celloedd unigol lle dôi criw bach at ei gilydd i drafod theori chwyldroadol.

Ac fel y diwygiwyd fersiwn Olivetan o dro i dro gan Calfin a Beza, fe rymuswyd y pwyslais hwn ar gadw union eiriad yr Ysgrythurau gwreiddiol nes dod yn un o nodweddion amlycaf y fersiynau a gysylltir â Genefa

Yr enghreifftiau amlycaf yw cyrn neu liw mewn anifail.

Yn sicr, un o nodweddion amlycaf emynau Elfed yw eu gallu i gyfannu cynulleidfa drwy son am y profiad a'r dyhead amgyffredadwy.

Dilyn esiampl yr Almaen a wnaeth Cymro amlycaf ei oes, a'i wobr oedd gwybod fod gweithwyr yn gallu cael cynhaliaeth hyd yn oed mewn salwch trwy lusgo byw 'ar y Lloyd George'.

Un o nodweddion amlycaf y rhagymadroddion yw'r ymdeimlad o wladgarwch cynnes, a thanbaid yn wir, sy'n rhedeg drwyddynt.

Nofel hunan-gofiannol gan un o feirdd Saesneg amlycaf Cymru.

"Mae Cyngor y ddinas yn trio ond dydech chi ddim yn ennill pleidleisiau trwy helpu'r digartref nad ydych?" All o ddim ond dyfalu beth sy'n mynd trwy feddyliau y bobl hynny fydd yn ddigartref dros y : feddy "Un o nodweddion amlycaf y digartref yw anobaith.

Yn BBC Choice Wales News at Ten ceir adroddiad cynhwysfawr o straeon amlycaf y dydd.

Ond y cynrychiolydd amlycaf, a ddaeth i wrthdarawiad ag awdurdodau'r Brifysgol trwy lyfr o'i waith, oedd W.

Llesgedd gwleidyddol a chymdeithasol Gorllewin yr Almaen oedd un o themâu amlycaf protestiadau'r myfyrwyr yno.

Astudiaeth o waith un o arlunwyr amlycaf Cymru heddiw.

Yn wir, dyma'r gair allweddol a ddefnyddiwyd gan ddiwinyddion amlycaf Ewrop i ddisgrifio siglo sylfeini cred.

Ein hymgyrch amlycaf yw ILDIWCH I'R GYMRAEG a fu'n ymgyrch weithredol ers dechrau mis Chwefror, ac wedi llwyddo i gadw momentwm ers hynny.

Ei nodweddion amlycaf yw hunan-hyder a phendantrwydd, o boptu.

O ran newyddion teledu Wales Today sy'n cyrraedd y brig erbyn hyn fel y llwyfan amlycaf ar gyfer newyddion Cymru ar unrhyw sianel mewn unrhyw gyfrwng.

Y grwpiau amlycaf i hanu o'r dref brysuraf yng Nghymru ydi Diems a Hyrbi ond erbyn hyn mae yna griw arall o'r Port wedi ymddangos ar y sîn, a does dim amheuaeth eu bod nhw wedi gwneud eu marc yn barod.

Condemniai'r rhai amlycaf ymhlith y Phariseaid am eu gorfanylder ynghylch allanolion dibwys a'u hesgeulustod o egwyddorion pwysfawr y datguddiad o ewyllys Duw a roddasid iddynt.

Yng ngogledd-ddwyrain yr ynys y ceir y dystiolaeth amlycaf o'r Chwyldro Diwydiannol ym Môn.

Mae'r hyn sy'n wir am ei waith yn ei gyfanrwydd yn wir hefyd am ei waith yn y maes emynyddol, ac yma, gwelir y cydblethu'n digwydd amlycaf yn y pwyslais a roddodd Elfed ar gyfieithu a chyfaddasu emynau.

Trefnwyd i gael cyfarfodydd gweddi undebol i ymbil am ddiwygiad a dyma'r cyfeiriad cyntaf yn y fro at un o nodweddion amlycaf y paratoi ar gyfer y diwygiad hwn.

Lle bu miloedd yn dod ynghyd i wrando ar lais chwyldro nodwedd amlycaf y saithdegau oedd chwalfa.

Yr arwydd allanol amlycaf o hyn oedd pwnc yr Eisteddfod, lle y bu bwganod yr Orsedd a'r pwyllgorau lleol yn foddion i gymylu gwahaniaeth pwyslais ymhlith y cyfranwyr.

Canlyniadau'r datblygiadau mewn dulliau ffermio a pholisiau cynllunio cibddall Llywodraeth Lloegr oedd y ddau amlycaf o nifer o resymau dros y diweithdra a'r diboblogi.