Amlyga elfennau athronyddol i'r stori gyda'r naratif yn y person cyntaf, a'r person hwnnw (yr awdur, o bosib, ond nid o reidrwydd) yn rhoi ei hun yn sefyllfa Duw gan ddweud mai fel hyn y mae Duw yn edrych ar bawb o ddydd i ddydd ac fel hyn y gall brofi ein camweddau inni ar Ddydd y Farn.