Yn y cyd-destun hwnnw amlygid amodau ymddygiad greddf, dirnadaeth ynghyd â'r gallu angenrheidiol i ymateb yn briodol i sefyllfaoedd arbennig ac i'r addysg honno a gyfrennid i'r uchelwr ac a ddyfnhâi ynddo'r priodoleddau hanfodol ym mywyd y gŵr perffaith.
Nis gwelir fel rhywbeth hanfodol gynhenid yn y ddynoliaeth, yn halogiad meidrol, ond fel rhywbeth a amlygid mewn troseddau moesol megis anghyfiawnder,anonestrwydd, gorthrwm, trais a chreulondeb.
Ni thâl ach ddiledryw heb ddoniau cynhenid i'w hanrhydeddu, na theulu heb urddas y bywyd gwâr grasusol i'w gynnal, sef y gras cynhenid (grazia) a amlygid gan Castiglione yn ei Il Cortegiano.
Ac yng Ngwledydd Cred, drwy'r canrifoedd hir o amser Paul hyd at o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg, uniaethwyd mewn ffordd ryfeddol ffawd y Cristion unigol a phwrpas Duw fel yr amlygid ef drwy hanes.