Fel yn y llun Chwarel gyda'r marciau coch a melyn, mae'n amlygu'r cerrig ar wyneb yr adeiladau gyda lliw llachar.
Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.
Yn y tudalennau a ganlyn, rhoddir manylion dethol am ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob pwnc er mwyn amlygu pwyntiau penodol yn y canllaw.
Bydd disgyblion yn gweithio'n ddiwyd ar amrywiaeth o dasgau ysgrifenedig gan amlygu gonestrwydd, ymroddiad a dychymyg.
Dylai arolygwyr grynhoi'r cryfderau a'r gwendidau a welir wrth arsylwi addysgu'r pynciau, gan amlygu'r agweddau pwysicaf y mae angen rhoi sylw iddynt.
Dylai dyfarniadau ar ansawdd y dysgu mewn Cymraeg/Saesneg roi ystyriaeth i ymateb y disgyblion i dasgau o ran eu diddordeb, eu cyfranogiad a'u mwynhad; cyflymder eu gwaith; i ba raddau y maent yn amlygu cynnydd wrth ddefnyddio'r iaith lafar ac ysgrifenedig, ac yn datblygu annibyniaeth, llithrigrwydd ymadrodd a chywirdeb yn briodol i'w hoedran a chyfnod eu datblygiad.
Mae hyn yn amlygu rhywbeth pwysig am glasuraeth Saunders Lewis.
Tybed a ellir ffurfio system gemegol wahanol a gyfansoddion eraill yn hytrach na charbon ac a fyddai'n amlygu priodweddau bywyd?
Er enghraifft, rydym wedi amlygu a blaenoriaethu ein perfformiad wrth ymateb i alwadau ffôn i'r fath raddau fel y llwyddwyd, ym mis Ebrill, i ateb dros 70% o alwadau o fewn tri chaniad ac 80% o fewn pum caniad.
Er nad yw canser y pancreas bron byth yn digwydd mewn pobl o dan ddeugain oed, ac er ei fod yn amlygu'i hun trwy achosi clwyf melyn yn hytrach na phoen, gwnaeth y llawfeddyg ddiagnosis o ganser y pancreas.
Dyma ychydig ffeithiau i amlygu'r duedd.
Roedd tyndra rhwng yr hen a'r newydd yn ei amlygu ei hun yn y cyfnod hwn.
Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.
Bwriadasai lunio hanes y byd drwy'r oesoedd; ac er taw dim ond un gyfrol a gwblhaodd, ysgrifennodd ddigon i amlygu perthynas fythol ir dwy hen egwyddor, llywodraeth Rhagluniaeth ac awdurdod yr Ysgrythur.
Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.
Roedd Thomas a Gomer wedi clymu'r waliau yn ei gilydd yn grefftus ond roedd hyd yn oed eu crefft hwy'n annigonol i rwystro ambell grac rhag amlygu'i hun.
Ar wastad arall, ni allai hyn oll beidio a'i amlygu ei hun ym marddoniaeth Waldo : mae ei syniadau wedi eu llwytho a'r amalgam hwn o feddwl a theimlad, ac nid yw'n syn fod ei eiriau wedi eu llwytho yn yr un modd hefyd.
Eto mae'r amrywiaeth yn y ffordd y trinir y paent yn amlygu cyfansoddi artistig bwriadus o dan y brys ymddangosiadol i ddal delwedd.
Prinnach oedd unrhyw feirniadaeth a'i bryd ar amlygu pwysigrwydd ysgrifennu o'r fath os oedd y Gymraeg i oroesi'n gyfrwng llenyddiaeth a fyddai'n berthnasol i'r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru'r ugeinfed ganrif," meddai.
Gellir cymryd hyn i olygu bod angen sgrifenwyr Cristnogol mawr - megis Pantycelyn - sy'n amlygu pydew bywyd dyn yng ngoleuni cyfiawnder Crist, ond hefyd sgrifenwyr gwrth-Gristnogol sy'n gwrthod Crist ac yn - dewis pechod.
Llwyddodd hefyd i amlygu elfennau dynol y gwleidyddion gan sgwrsio gydag aelod gwahanol o'r Cynulliad Cenedlaethol bob wythnos.
Yn gyffredinol rhaid cael y wybodaeth fewnol hon er mwyn amlygu unrhyw fodolaeth mewn gwrthrych neu broses faterol.
O ganlyniad i'r trefniadau presennol, mae problemau dosbarthu yn amlygu eu hunain yn aml, gydag enghreifftiau lu o drafferthion ynghlwm wrth y broses o gael adnoddau o'r canolfannau neu'r cyhoeddwyr i'r ysgolion.