Mae'r Hen Dywodfaen Goch yn y rhan yma o'r wlad yn cynnwys amryfaen cwarts, sy'n graig galed iawn a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Defonaidd tua phedwar can miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Os y dychwelwn o Fae Rhosili i Abertawe ar draws y ffordd sy'n mynd ar hyd Cefn Bryn, gellir gweld y Cerrig Brown Defonaidd sy'n gorwedd o dan yr amryfaen cwarts.