Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amryliw

amryliw

Ymhobman roedd blodau gwylltion amryliw.

Pan fyddai allan gyda'r nos, neu yng Nghaernarfon ar y Sadwrn, gwisgai het a honno wedi ei haddurno â phlu amryliw- -coch y bonddu, petrisen corff gwin, ac amryw eraill.

O ran hynny, nid yw ysgolion Cymry'n dysgu'r disgyblion fod Gaeleg a Gwyddeleg yn gymaint rhan o batrwm diwylliannol amryliw Prydain â'r Gymraeg a'r Saesneg.

Ond ar Santorini tywod du, folcanig, sydd dan eich traed ar y traethau - ond wrth ichi blymio dan wyneb y dwr, a'ch snorcel a'ch masg am eich pen, mae'r pysgod amryliw i'w gweld yn eglur mewn dwr glân a'i lesni eang yn ymestyn ymhell o'ch blaen.

Y dyffryn rhyngof a bannau Calabria fel carped, a'r ffyrdd a'r pentrefi yn batrymau amryliw arno.

bywyd ac amryliw batrymau'r bywyd hwnnw - diwrnod lladd mochyn, diwrnod dyrnu, diwrnod cneifio, byd torrwyr cerrig, carega, cymortha, llofft stabal, - byd y ferm, y tir a'r tywydd...

Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.

Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.

'Y blodau!' gwaeddodd Bigw, ac edrychais i fyny a'i gweld yn bwrw blodau, cafod fawr o flodau amryliw yn ein tagu gyda'u perarogl.

Yr oedd ein dillad mor amryliw a siaced fraith Joseph' gan amled y clytiau oedd arnynt....Ond yr oeddym yn 'wyn ein byd,' ac yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn ystorio argraffiadau oeddynt i fid yn weledigaethau hynaws, prydferth, ymhen llawer o ddyddiau ac wedi i ni ymwasgaru ar hyd a lled y byd.

Llafur breichiau caethwas bwrcasodd eich lleni o sidan a moreens o liw glas, porphor ac ysgarlad; a'ch carpedau amryliw o weithdai Kidderminster a Brussels.