Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amsar

amsar

'Tydi'r ystol yn y ty gwair, yn pwyso'n erbyn y gowlas, 'run lle ag y bydd hi bob amsar.' 'Ond, Miss Willias.' 'Ewch i' 'nôl hi, Norman.

Amsar te pnawn 'ma mi rois 'y nhroed yni hi.

'Neidiwch i mewn, William Huws, lle bod ni'n 'straffu amsar.

Un felly ydy o; dipyn bach yn oriog, a ddim yn sylweddoli fod fy amsar i'n dynn ar ôl i mi fynd ar fy mhension, ac nad ydy pedair awr ar hugain ddim hannar digon o ddiwrnod i mi bellach.

Roedd Ifor yntau wedi dechra teimlo fod rhywun yn ei wylio trwy'r amsar ac yn chwythu i lawr ei war.

Dros y ffordd i'r Hen Eglwys mae'r cocos gora' i'w cael bob amsar, ac mi ŵyr Mrs Robaits yn iawn lle, achos flynyddoedd yn ôl, pan oedd hi'n hogan ifanc, mi oedd hi'n arfer'u hel nhw a mynd â nhw i'w gwerthu i Gaernarfon, medda' hi.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddžad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tž Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

'Heb gael amsar i ddarllan y sgript mae'n siŵr', a mentrodd Manon ymhellach: 'Dynas brysur ydi hi.'

"Sgin i ddim amsar i gyboli hefo chdi," meddai hwnnw wrtho'n fyr ei amynedd.

Ma' hi'n amsar rhyfal William Huws ac ma' petrol ar rasion.' Gwr â'i faen sbring wedi'i windio hytrach yn dynn oedd Ifan Ifans y Paraffîn; datodai'n un llanast' ar y styrbans lleia'.

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

Wn i ddim ar y ddaear pwy ydyn nhw'r rhan fwya; wyrion efalla erbyn hyn, i rai yr oeddwn i'n gybyddus â nhw amsar maith yn ôl.

Wyt ti'n meddwl lici di yma?" "Newydd gyrraedd ydw i," medda fi, "dydw i ddim wedi cael amsar i edrych o 'nghwmpas eto." A dyma fo'n dechra rhestru ansawdd y bwyd a'r bendithion, ac yn fy sicrhau i, unwaith y baswn i'n setlo, mai yn o y mynnwn i fod.

Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.

'Paid â disgwyl gormod o lonydd - mae hi'n amsar cynhaea pry cop.

Bingo a thafarna a chlybia pia hi yn yr ardal yma heddiw." "Chwara teg ržan, mae 'na weithgaredda diwylliadol hefyd, cofia di ž ond heb fod yn gysylltiedig a'r capal bob amsar, fel ers talwm." "Oes, a bod yn deg.