Fel ag iodin cyffredin, pan roddir ffurf ymbelydrol o iodin i berson, mewn diod neu drwy chwistrelliad, bydd canran sylweddol ohono yn cael ei amsugno gan chwarren y thyroid cyn cael ei ryddhau i'r corff fel hormonau.
Bydd atom neu folyn yn amsugno goleuni os yw'r donfedd yn cyferbynnu'n union â'r gwahaniaeth egni rhwng dwy lefel (gw.
Mewn meddygaeth, gellir trin staen 'gwin port' ar y croen drwy diwnio laser alexandrite fel bod y staen yn amsugno'r goleuni ac felly'n cael ei ddifrodi.
Mae calch yn cynnal cytbwysedd asid/alcali yn y pridd fel y gellir amsugno porthiant planhigion, mewn toddiant, trwy flew gwraidd y planhigion.
Mae rhywfaint o'r goleuni, fodd bynnag, yn cael ei amsugno gan y dudalen a'i droi'n wres.
Ceir rhai creigiau anhreiddiadwy nad ydynt yn amsugno dŵr.