Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amwys

amwys

Er angen egluro'r cyfeiriadau ynddynt, nid cerddi amwys mohonynt a phrin y gellir anghytuno ynghylch eu cynnwys.

Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.

Ond rhyw ysbrydion amwys, anniddorol oedd y rhain - rhyw greaduriaid ffansi%ol, yn symud fel pe o dan blanced wen, ac mor ddigymeriad fel nad oedd modd gwybod eu rhyw, hyd yn oed; ac yn wir doedd dim sicrwydd fod ganddyn nhw ryw.

Lewis y glynn i dat ai kant.' Mae pum mlwydd yn oedran amwys, wedi gadael babandod ac eto heb ddechrau datblygu'n oedolyn cyfrifol (ystyrid mai saith oedd yr oed pan fyddai plentyn yn dechrau meddwl ac ymddwyn fel oedolyn).

Mae'r tystion hefyd yn ymosod ar yr iaith, gan ddweud mai iaith ystrywgar amwys ydyw, yn galluogi'r Cymry i dwyllo'r awdurdodau (t.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Credai'r Gymdeithas fod yr hen ganllawiau yn rhy amwys a'u bod yn ddi-werth oherwydd y diffyg arweiniad a gynigiwyd i'r awdurdodau cynllunio.