Camgymeriad, mi gredaf, oedd dangos tŵr real ar ddechrau'r cynhyrchiad gan ei fod yn tynnu oddi ar amwysedd llwythog y geiriau cyntaf: Merch: Dwi yma.
Dyma'r amwysedd nodweddiadol Victoraidd a welir yn narluniau rhybuddiol Richard Redgrave neu Augustus Egg ar y naill law a synwyrusrwydd goludog gwaith artistiaid fel William Etty, Edward Poynter, Frederic Leighton a Laurence Almatadema (i nodi dyrnaid yn unig) ar y llaw arall.
Os yw llunio darlun boddhaol o'r canrifoedd cynnar yn anodd oherwydd prinder ac amwysedd y dystiolaeth, y mae gwneud hynny gyda'r cyfnod diweddaraf yn anodd oherwydd swm aruthrol y defnyddiau.
Gan mai ar gais (neu o leiaf gyda chydsynied) Yr Adran y sefydlwyd rhai canolfannau, ac oherwydd y drefn fod y Swyddfa Gymreig yn cynnig grantiau yn benodol am staffio, mae amwysedd yngln â chyfrifoldebau staffio.
Y peth sy'n taro'r darllenydd heddiw am y datganiad hwn yw ei amwysedd.
Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.
Y mae awydd afieithus yr awdur i groniclo hanes ysgeler Wil yn creu rhyw amwysedd gogleisiol ym meddwl y darllenwr.
Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.
Adlewyrchir yr amwysedd hwn yn y disgrifiad o Siôn yn yr ail baragraff, y diniweidrwydd annwyl a'r anwadalwch ar y naill law, ac ar y llall y duedd i efelychu oedolion.