Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.
Ac yna amwyster cyfrwys y Modd Gorchmynnol sy'n cyfuno'r argraff o awdurdod ac apêl.