Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amynedd

amynedd

Mynegodd un arall o gaplaniaid y Methodistiaid Calfinaidd ei bryder fod y gagendor rhwng y milwr a'r Eglwys mor llydan fel na ellid ei bontio heb ddyfalbarhad ac amynedd mawr o'r ddeutu.

Mae angen amynedd i ddatod ei rwymau a dyfalbarhad i werthfawrogi ei gynnwys.

Gwylio a deall y sêr Er ei bod hi'n bosib gwylio'r sêr gyda dim mwy na llygaid ac amynedd, mae seryddion wedi dysgu llawer mwy ers i Galileo droi ei delesgop ar y wybren uwchben am y tro cyntaf a gweld pethau nad oedd yn bosib eu gweld gyda'r llygaid yn unig.

Mae'n aros yn ei fawredd, yn ei ogoniant, yn ei amynedd, yn ei gyfiawnder ac yn ei gariad.

Dyfal donc a dorrodd y garreg yn rhy amlond yn y diwedd llwyddodd ymdrechion ac amynedd a phenderfyniad.

Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.

Fel hyn ceir yr argraff o annoethineb a difrawder parhaus dyn ochr yn ochr ag amynedd a dyfalbarhad parhaus Duw.

Yn y Mabinogi fe gyferbynnir yr hen a'r newydd: balchder, rhyfeloedd a dial yr hen gymdeithas baganaidd yn erbyn gostyngeiddrwydd, amynedd, a chariad brawdol cymdeithas wedi ei selio ar rinweddau Cristnogol.

'Fe wn i ei fod yn dweud yn y llyfr,' codd Siân ei lais wrth iddo ddechrau colli ei amynedd â'i frawd.

Ychydig iawn o amynedd oedd gan awdurdodau'r ysbyty â'r math hwn o ynfydrwydd, ac yn hytrach nag ymddiried ynddynt hwy penderfynodd ef geisio cael y cyffuriau angenrheidiol yn ddirgel, a thrin yr aflwydd ei hun.

Ta waeth, doedd gan yr Arabiaid ddim amynedd a'r fath ffolineb - a phwy all eu beio nhw a hwythau'n byw tan haul tanbaid y Dwyrain Canol.

Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.

Mae angen amser ac amynedd i wylio adar.

"Sgin i ddim amsar i gyboli hefo chdi," meddai hwnnw wrtho'n fyr ei amynedd.

Nid oedd ganddynt ronyn o amynedd tuag at grefydd na'r Eglwys gan fod y naill beth fel y llall yn eu golwg hwy yn gwbl amherthnasol.

Arweinydd sy'n ymddiried mewn amynedd, cynllunio a phwyll yw Manawydan hefyd.

Dangosir yma ddiffyg amynedd at y giamocs gwerinaidd a fyddai ac y sydd yn aml yn mynd dan yr enw 'drama' mewn festri%oedd a neuaddau bychain.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Roedd yn trethu amynedd pob un ohonynt ac nid oedd meddwl y byddai rai iddynt wneud yr un peth, yn ôl pob golwg, am ddwy noson arall yn codi dim ar eu calonnau.

Dyn y copaon yw dy dad ac nid oes ganddo amynedd gyda'n pethau bach ni.

'I be ar y ddaear oedd arnat ti isio gwisgo sgidia fel 'na i ddwad i le fel yma?' gofynnodd Merêd yn dechrau colli amynedd.

Bu profiad arall, mae'n ymddangos, yn drech nag amynedd y rhadlonaf o gystadleuwyr ac yn ddigon i'w ddarbwyllo rhag herio ffawd am y trydydd tro.

A does dim lot o amynedd gan gefnogwyr na pherchennog Caerdydd a sa i'n synnu dim na fydd pethe'n newid.

Bydd ystyfnigrwydd dyn yn y Gorffennol bellach - yr Amser Presennol wedi peidio â bod, ac amynedd Duw wedi ennill.

Yn wir ychydig o seiri coed a oedd yn meddu ar y gallu a'r amynedd, a hefyd yr arian i fedru gweithio am hir amser heb gael eu talu am eu gwaith.

Saer a feddai ar ddigon o amynedd oedd piau hi wrth y gwaith hwn.

Ac er nad oedd gan y Canghellor Kohl fawr o amynedd â'r 'twristaid cydwybod' a ddenwyd yno yn sgil hyn, roedd hi'n yrnddangos fod y gweithredu'n dwyn ffrwyth.

Does ryfedd, o gofio'r gwaith trwm yma, nad oedd amser nac amynedd gan wragedd cyffredin y cyfnod i ysgrifennu llyfrau am fywyd gwraig yn ystod yr Oesoedd Canol.

Cofio caredigrwydd, ac amynedd a chefnogaeth a chlosrwydd ac mae'r meddyliau hynny yn aros hyd heddiw.

Yn y Nodiadau, yn arbennig, y deuwn wyneb yn wyneb a'r dyn, WJ Gruffydd: ei argyhoeddiadau, ei bryderon, ei freuddwydion, ei gas-bethau, ei hoff- bethau hefyd, ei oddefgarwch, ei ddiffyg amynedd, ei droadau barn sydyn a'i safbwyntiau annisgwyl.

Ac felly wedi i Owain lwyddo i weld moto-beic a phont a ffôn a methu'n lân â gweld car heddlu, rhedodd Carol allan o syniadau ac o amynedd.

Mae ffôns y ddau yn dechrau poethi wrth iddynt ill dau ddechrau colli amynedd a ffonio bob yn ail, bob yn ail munud.

Fy niffyg amynedd.