Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amyneddgar

amyneddgar

Bu helbulon blin ynglyn â pharatoi'r Beibl ond bwriodd Charles ymlaen yn amyneddgar.

Bu'r rhieni yn amyneddgar am amser hir ac ni phallodd eu brwdfrydedd a'u penderfyniad i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i'w plant yn y Rhondda.

Arhosai'r rhai yn y naill giw yn amyneddgar i brynu tocyn, ac yr oedd y rheini yn y ciw arall yn disgwyl cyfnewid eu tocynnau am rai o'r ychydig nwyddau oedd ar gael.

A^i i drafferth i egluro'i gynlluniau'n amyneddgar iddi, er nad oedd galw yn y byd tros iddo wneud hynny.

Bydd yn amyneddgar.

Neu ai aros yn amyneddgar, yng nghwmni W.

'Wy'n credu taw ei ffordd amyneddgar, fonheddig e oedd yn ei dangos hi lan, hyd yn oed iddi hi ei hunan, yn dangos yn gwmws beth oedd hi.

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

Rydym yn falch iawn o glywed am eu llwyddiant, ac amryw eisioes wedi cael clywed eu canlyniadau - eraill yn dal i aros yn amyneddgar.

Gorfod sefyll yn amyneddgar am awr a hanner cyn cael esgyn i gerbyd.

Mae ôl sylwi amyneddgar ar olygfa yn amlwg yn ei waith o'r dechrau un er nad yw'n cynnwys manylion topograffig.

Bedydd tân fyddai ymddangos dan y fath amgylchiadau i'r sawl a fu'n disgwyl ei gyfle'n amyneddgar ers tro byd, ond gallai fod yn brofiad dirdynnol i'r mwyaf swil o staff y swyddfa.

Maen nhw hefyd yn cerdded ymlith y mamau a'r plant sy'n eistedd yn amyneddgar mewn rhesi trefnus.

Mae llygedyn o obaith o hyd, meddai, ac mae'n annog cefnogwyr Cymru i fod yn amyneddgar.

Yr oedd ei fam yn wrol yn medru wynebu'r siopwr, ac yr oedd y siopwr yn amyneddgar.

tra eisteddai 'n amyneddgar yno y sylweddolodd mor uchel a ffyrnig oedd yr afon, a phenderfynodd fynd i ben y bont i edrych arni.