Y goleuadau, yn anad dim, a'i denai yno.
Yr oedd yn gyfle euraid i orseddu Penri fel un o brif arwyr yr Ymneilltuwyr, a'r Annibynwyr yn anad neb.
Defnyddiaf ynni fel esiampl gan yn anad, dim ynni sy'n cynnal cymdeithasau ac mae eu ffyrdd o'i ddefnyddio yn eu nodweddu.
Pwysleisio wrth bob swyddog y daethom ar ei draws ein bod yn gyfieithwyr, rhag ofn iddynt gredu mai ein gwaith yw FS yn anad dim.
Yr oedd ganddi hi ddyletswydd iddi hi ei hun yn anad neb, dyletswydd i ddod o hyd i'w rhyddid.
Wna-i ddim ar hyn o bryd geisio esbonio sut y mae'r gyfundrefn arbennig hon yn sefyll ychydig ar wahân i'r rhannau ymadrodd eraill, heblaw crybwyll nad yw mor gysylltiol gystrawennol â'r lleill (fel arddodiaid a chysyllteiriau) ac mai hon yn anad dim sy'n cynnwys y deunydd ystyrlon mwyaf 'diriaethol' ymhlith geiriau.
O dan ei ddwylo efyn anad neb y tyfodd y nofel Gymraeg yn arf lled wleidyddol am y tro cyntaf.
Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.
M., ac yn anad dim ei ddelfryd ef o gymdeithas, yw'r hyn sy'n sylfaenol i ryddiaith Anthropos.
Yn anad dim roedd hi eisiau hynny heb iddi hithau, oherwydd diffyg chwaeth ei chefndir gwledig, ei lesteirio mewn unrhyw ffordd.
I ddynion tebyg iddo ef, yn enwedig pan fyddai dadl economaidd iwtilitaraidd gref drosti, a'r cof am derfysgoedd diweddar yn rhoi min ac awch arni, roedd addysg yn anad dim yn fodd i gael dylanwad ar y dosbarth gweithiol.
Ef, yn anad yr un o'r Piwritaniaid cynnar, a roes y mynegiant mwyaf ysgytiol i'r argyhoeddiad hwn:- Rwi'n rhybuddio pawb, ac yn gweiddi ar bawb.
Bu llu o ffermwyr ar drywydd Ap drwy gydol y misoedd hyn, ond teimlai Wil Dafis mai ef yn anad neb bellach oedd fwyaf o ddifri.
Buasai llawer ohonom yn y Blaid Lafur am flynyddoedd, a bodau gwleidyddol oeddem hyd flaenau'n bysedd, ac yn anad unpeth, deallem mai â grym y mae a wnelo gwleidyddiaeth, a dyna wers nad yw'r Blaid Lafur erioed wedi ei hanghofio.
Y mae'r mudiad wedi bod ynghlwm â nifer o weithgareddau pwysig a phoblogaidd gyda'r aelodau, na ellir eu cynnwys o dan deitlau penodol, a rhain, yn anad dim arall, sy'n dangos mor eang yw gorwelion y mudiad.
Ef yn anad neb a roes bwys ar "y werin" yng Nghymry.
Rhoddodd y beirniaid fwy o sylw i genedlaetholdeb yng ngwaith Ffowc Elis nag i Gomiwnyddiaeth/Marcsiaeth/ Sosialaeth, oherwydd, yn ddiddorol iawn, wrth bleidio'r achos cenedlaethol yn anad yr un achos gwleidyddol arall y beirniedir llenorion am lunio propaganda ar draul creu llenyddiaeth, gan ragdybio fod y ddau yn bethau hollol ar wahân, a bod y naill o reidrwydd yn difetha'r llall.
Hwn oedd y tymor, yn anad yr un arall, a wnai i Ifor deimlo fod defaid yn cael hwyl iawn ar ei ben.
Cymharwyd yr Engadin Uchaf weithiau a Sweden - Sweden tan haul deheuol a than goron uchel o fynyddoedd ia llachar, miniog - cadwyn Bernina, yn anad yr un.
Arddull ystwyth yw yn anad dim a'i hystwythder yn galluogi'r awdur i ddangos profiad dyn fel symudiad parhaus, rhwng elfennau sydd yn parhaol ymdorri ac yn cyd-wau.