Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anadl

anadl

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.

Daliais fy anadl rhag ofn iddi daro ym mhennau'r gath a'r gwrachod i droi Anti Meg yn gabaitshen.

Oes aur y dica/ u oedd blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a threuliodd Ieuan Gwynedd - gyfran helaeth o'i oes yn ymladd am ei anadl, yn tuchan a phesychu, ac yn poeri gwaed.

Wrth i anadl a nerth ddod yn ôl i mi, sefais a meddwl yn ddwys mai ffordd ddwl ar y naw oedd hon i ddyn yn ei fan dreulio'i fywyd.

Oedd ei anadl yn drewi, neu ei gorff, neu = am un eiliad frawychus credodd ei fod yn drewi fel ffwlbart = ond na, yr idiot blewog yna yn ei ymyl oedd yn chwarae â'r llosgydd Bunsen.

Arogl y cytiau tywyll ac anadl boeth y lloi wrth darllen am roi bys i lo bach i'w annog i yfed o bwced yn hytrach na sugno'r deth.

Nid y rhanbarthau'n unig sy'n falch mai Mr Major fydd yno ac nid ei ragflaenydd - mae Ewrop gyfan yn anadlu anadl o ryddhad mai nid hi fydd yno ar ôl ei haraith ddi-gyfaddawd nos Fercher ddiwethaf.

Roedd ei du mewn yn troi, ei anadl yn fyr a hithau'n ei gusanu'n galetach a chaletach.

Daliodd Jean Marcel ei anadl a rhoddodd arwydd i'r criw.

Ailenynnwyd cynhesrwydd y cymdeithasu eto eleni wrth i'r actorion a'r criw technegol ddod ynghyd ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill i chwythu anadl einioes i eiriau'r sgript a dod â'r gymdeithas chwarelyddol, fel y'i portreadwyd gan T...

Pawb yn dal ei anadl cyn gadael yn llawn balchder a hunanbarch.

Gallai gwraig adael ei gŵr os oedd e'n dost iawn neu os oedd ei anadl yn drewi.

Na thybygwch fod drws y drugaredd wedi ei gau yn eich erbyn tra fo anadl ynoch ac ewyllys i ddychwelyd.

Rwyt yn tynnu dy hun allan o'r dŵr oer ac yn gorwedd ar y llwybr i gael dy anadl.

Wedi fy saethu gan un ohonynt...' Clywodd Andrews Kirkley yn sugno'i anadl i mewn yn sydyn .

Rhag i anlwc o'r math yma ddigwydd i'r sawl sy'n gweld ambiwlans yn mynd heibio iddo dylai'r person hwnnw afael yn dynn yng ngholer ei got, dal ei anadl a gwasgu'i drwyn nes gweld ci brown neu ddu!

"Wel, na, 'dwy ddim..." "Nag wyt, neu 'faset ti ddim yn sôn am ddiddanwch yn yr un anadl â hi." "Blin?" "Nid hynny'n gymaint â'i bod hi wedi mynd i dra-arglwyddiaethu yn y fan acw." "Beth am y misus?" "Mae'r hulpan honno o dan yr argraff y caiff hi gydaid o bres ar 'i hôl os bydd hi farw, ac mae'nhw fel person a chlochydd hefo'i gilydd.

wneud i chi deimlo ychydig yn brin o anadl ond ni ddylech fod yn fyr o anadl.

Mae'r haf mor fyr ei anadl.

Mentrais osod un troed ar y drws, ac yna eisteddais arno a'm pennau-gliniau yn cyffwrdd fy ngên gan ddal fy anadl ac yn disgwyl suddo.

arwyddlun o'r hil archolledig oedd y Cripil, y llwythau hynny o bobl y rhoddai Elystan unrhyw beth am allu eu hysgwyd o'u diymadferthwch a rhoi anadl newydd ynddynt.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Agorodd y caead, a chymerodd anadl hir.

Gallai deimlo anadl poeth ar ei war a chlywed rhyw ganu grwndi bygythiol yn ei glust.

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

Rydach chitha' wedi'i weld o hefyd, Snowt, ddega' o weithia', ond do?" "Do, Sam," meddai Snowt; ac ychwanegu, dan ei anadl, fel petai," ...

Ond cyn cael amser i dynnu anadl roedden i ffwrdd eto i ddau o sgwariau'r ddinas.

'Ydy Fordham yn gwybod?' gofynnodd dan ei anadl.

Cariad pob Comi a Nash yr ochr 'ma i Glawdd Offa, boed e'n ddyn neu'n ddynes.' Gwthiodd Dilwyn ei ddwylo'n ddwfn i'w bocedi a chymryd anadl ddofn cyn troi i wynebu Gary Jones.

Ac nid anadl creadur bychan oedd o'n ei glywed chwaith.

Ac yna, fel gwawr ddisymwth wedi nos fer Helsinki, y golau'n codi ar y llwyfan, a'r gynulleidfa - o bosib - yn tynnu anadl uchel o ryfeddod.

Wrth iddo agor drôr isa'r cwpwrdd rwyt yn dal dy anadl.

Er bod ei lais yn ysgafn a'i anadl braidd yn fyr, fe glywodd pawb bob un gair yn glir.