Chafodd plisman Israelaidd hefyd ei anafu pan ffrwydrodd bom yn Hen Ddinas Jeriwsalem.
Fydd Ryan Giggs ddim yn mynd i Armenia ar ôl anafu'i goes.
Deellir y bydd Chris Smith yn chwarae yn lle Paul Sterling sydd wedi ei anafu.
Gwrthdrawiad rhwng trenau yn Nhwnel Hafren yn anafu 100 o bobl.
Bydd Mark Jones yn chwarae'i ail gêm ar yr asgell a Duncan Jones ei ail ar y pen tynn ar ôl i Chris Anthony anafu'i goes.
Cododd cymylau o lwch i'r aer a dechreuodd tanau bach hwnt ac yma, ond diolch i rybudd gwyrthiol yr anifeiliaid ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Tywynnodd ar ei feddwl ei fod wedi syrthio i bwll a gloddiwyd iddo gan Ernest, fod mab yr Yswain, gyda gwên deg a gwenwyn dani, wedi ei hud-ddenu gyda'r bwriad iddo anafu ei geffyl.
`Rwy'n siwr ei fod e wedi cael ei anafu'n ddrwg.
Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.
O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.
Bydd Shanklin, sy'n ganolwr fel arfer, ar yr asgell dde oherwydd bod Mark Jones wedi'i anafu.
'Roedd Denzil yn hapus iawn ym Mhenrhewl ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i ffarmio ar ôl iddo gael damwain ddifrifol ac anafu ei gefn.
er cymaint fy mharch tuag at perego fel blaenasgellwr rhaid dweud mai ar yr ochr dywyll y mae ar ei orau ac y mae cryn amheuaeth yn fy meddwl i am ei ffitrwydd gan na chwaraeodd ond un gêm i lanelli ers ei anafu.
Eric Harris (18 oed) a Dylan Klebold (17 oed) yn lladd 12 o'u cyd-ddisgyblion ac yn anafu 20 arall yn Columbine High School, Denver, Colorado, cyn eu lladd eu hunain.
Roedden nhw'n sgrechian ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael eu anafu'n ddrwg.
Yn ystod y gawod dechreuodd y chwaraewr oedd wedi ei anafu deimlo'n wan a chael poen yn ei ysgwydd chwith.
Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wahân.
Fe allai'r dewiswyr gael eu gorfodi i wneud mwy o newidiadau i'r tîm - mae'r canolwr Mark Taylor wedi anafu'i bigwrn yn ystod y paratoadau ar gyfer y gêm.
Wedyn dyna Kevin Jones, bachgen pymtheng mlwydd oed o Surrey, a gafodd ei anafu mewn damwain trên ond a anwybyddodd ei boen ei hun er mwy helpu a chysuro eraill.
* "Fedra i ddim dweud os cafodd rhywun ei anafu yn y ddamwain oherwydd cludwyd pawb i ffwrdd mewn ambiwlans..."
Mae'r gwaith hwn wedi hawlio llawer corff, ac wedi anafu llawer mwy.
Mae'r elusen hefyd yn honni bod hanner y boblogaeth yn adnabod rhywun sydd wedi anafu ei hun yn fwriadol.
Chafodd neb ei anafu'n ddifrifol ond nawr mae pryderon difrifol am ddiogelwch pobol sy'n byw yn agos at burfeydd o'r fath.
Bydd Geraint Lewis, Abertawe, yn safle'r wythwr yn lle Scott Quinnell, sydd wedi ei anafu.
Ni fydd chwaraewr canol-cae Lerpwl, Steven Gerrard, yn mynd i Albania gyda charfan Lloegr - mae e wedi anafu'i gefn.
'Pwy a wyr beth all ddigwydd gyda Robert Howley wedi'i anafu.
Gaffie du Toit fydd y cefnwr yn lle Delport gafodd ei anafu yn erbyn Cymru.
Gadawodd Ramprakash sesiwn ymarfer ar ôl anafu ei wddf.
Bydd pencampwr chwech o'r saith mlynedd ddiwetha yn Wimbledon, Pete Sampras, yn parhau i chwarae yn y gystadleuaeth er bod sgan yn dangos ei fod wedi anafu tendon yn ei ffer yn ystod ei fuddugoliaeth dros Karol Kucera ddoe.